Cyngor Celfyddydau Cymru yn penodi Pennaeth Cerddoriaeth
- 7 hours ago
- 2 min read

Penodi Pennaeth Cerddoriaeth newydd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi penodi Roger Wilson yn Bennaeth Cerddoriaeth. Bydd yn dechrau ym mis Gorffennaf 2026.
Mae’n dod â dros 30 mlynedd o brofiad fel cerddor, addysgwr ac arweinydd yn y celfyddydau. Mae’n berfformiwr wedi'i hyfforddi mewn conservatoire. Bu’n gweithio yn y sectorau masnachol, jas a chlasurol gydag ystod o artistiaid gan gynnwys Lesley Garrett, Bryn Terfel, James Brown a Quincy Jones. Mae ei yrfa berfformio yn cynnwys cynyrchiadau mawr yn y theatr gerdd a cherddorfeydd gan gynnwys Cerddorfa Gyngerdd y BBC a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol.
Bu hefyd mewn swyddi uwch ar draws sector cerddorol Prydain gan gynnwys yn y Gerddorfa Jas Ifanc Genedlaethol, Cerddorfa Ifanc Swydd Gaint a Cherddorfa Undeb y Grand. Roedd hefyd yn Rheolwr Addysg yn y Tŷ Opera Brenhinol lle bu’n datblygu rhaglenni a phartneriaethau addysg cenedlaethol gan weithio gyda cherddorion, lleoliadau a chymunedau ledled Prydain.
Mae'n ymuno â ni o Fywydau Du mewn Cerddoriaeth lle mae'n Gyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithrediadau gan arwain gwaith i ddatrys anghydraddoldeb a chefnogi newid ar draws y diwydiant.
Fel Pennaeth Cerddoriaeth, bydd yn arwain ar ddatblygu a chyflwyno ein strategaeth gerddorol gan weithio'n agos gydag artistiaid, sefydliadau a phartneriaid ledled Cymru. Mae'r swydd yn cynnwys llunio blaenoriaethau buddsoddi, cefnogi cynaliadwyedd sefydliadau a gwyliau cerddorol a chreu cyfleoedd i artistiaid a chynulleidfaoedd ar draws ystod o fathau gwahanol o gerddoriaeth.
Bydd yn dechrau ei swydd 6ed Gorffennaf 2026.
Dywedodd Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Mae dod o hyd i'r person iawn i arwain ein tîm Cerddoriaeth wedi profi ei bod yn werth aros. Mae’n dod â phrofiad rhagorol fel cerddor, addysgwr ac arweinydd ar draws ehangder eithriadol o'r byd cerddorol ac mae ei ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant yn union y persbectif sydd ei angen arnom wrth inni lunio sector cerddoriaeth yng Nghymru sy'n uchelgeisiol, amrywiol a chynaliadwy. Mae dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru wedi mynd ychydig yn fwy disglair."
Dywedodd Roger Wilson:
"Dwi’n falch iawn o ymuno â Chyngor Celfyddydau Cymru ar adeg gyffrous. Dylai pawb allu profi a mwynhau'r celfyddydau yng Nghymru. Gan ddefnyddio fy mhrofiad a'm harbenigedd helaeth, dwi’n ymuno â thîm anhygoel o unigolion sy'n ymroddedig i'r amcan pwysig yma."





Comments