Cân newydd Gymraeg gan Lily Webbe i’w rhyddhau ar label ‘Sionci’ Tŷ Cerdd
- Jul 13
- 2 min read

Parhad partneriaeth AffriCerdd–Tŷ Cerdd â’r Eisteddfod Genedlaethol, sef cefnogi artistiaid o liw i weithio drwy gyfrwng y GymraegYm mis Gorffennaf, rhyddheir Gabriel, cân newydd Gymraeg gan yr artist o Gaerdydd, Lily Webbe. Ysgrifennwyd y gân yn wreiddiol yn 2025 fel rhan o AffriCerdd, sef menter ar y cyd rhwng Tŷ Cerdd a'r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cefnogi cerddorion o liw i greu cerddoriaeth newydd yn y Gymraeg. Mae AffriCerdd yn deillio o ymrwymiad y ddau sefydliad i ymgysylltu a chefnogi ystod amrywiol o grewyr cerddoriaeth i greu gwaith yn y Gymraeg.
Mae dylanwadau cerddorol Lily yn ymestyn ar draws sbectrwm eang, o ganu’r enaid, reggae ac R&B, i jazz, hip-hop, ffync, house, garage a llawer mwy.
Meddai hi:
“Rwy’n cael ysbrydoliaeth o bobman, ac mae’r amrywiaeth hon yn siapio’r sain rwy’n ei chreu. Mae Gabriel yn gân ddefosiynol a llawn awyrgylch sy’n dilyn Ceisiwr wrth iddo alw ar yr Archangel Gabriel am sefydlogrwydd, goleuedigaeth ac aileni. Mae’r gân yn cyfuno delweddau o wreiddiau, tân a goleuni dwyfol, ac yn olrhain taith o’r cysgodion i eglurder, wrth i bresenoldeb Gabriel ddod yn ffynhonnell arweiniad, trawsnewid a deffroad ysbrydol. Mae’n wahoddiad tebyg i emyn – yn rhannol weddi, yn rhannol ildio – wedi’i lapio yng ngolau parch cyfriniol.”
“Mae’r gân hon yn sôn am siwrnai o dywyllwch i oleuni – eiliad o ymestyn allan i gael arweiniad ac o deimlo o’r diwedd fod rhywbeth yn ateb yn ôl.”
Cafodd Lily ei mentora drwy gydol y broses gan yr artist blaenllaw Eädyth Crawford, a hithau wedi datblygu hyder Lily i ysgrifennu a pherfformio geiriau Cymraeg.
Dechreuodd AffriCerdd yn 2021 fel prosiect Eisteddfod Amgen, ac ers hynny mae wedi cefnogi nifer o artistiaid o liw i ysgrifennu caneuon newydd yn Gymraeg, gan gynnwys Adjua, Aisha Kigs, Frances Bolley ac Asha Jane.
AffriCerdd 2026 yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Eleni, mae AffriCerdd yn rhoi llwyfan i’r gantores a chyfansoddwraig Sarah Boudreaux, a fydd yn perfformio ar lwyfan Encore yn yr Eisteddfod ddydd Gwener 7fed Awst am 12.15pm
Lily Webbe – caiff Gabriel ei rhyddau ar Sionci a bydd ar gael i’w ffrydio a’i lawrlwytho ar yr holl brif lwyfannau o ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2026.
Dyddiad rhyddhau’r fideo: Dydd Gwener 24 Gorffennaf
Mae Lily Webbe yn gantores R&B/canu’r enaid Caribïaidd Cymreig, yn gyfansoddwraig caneuon ac yn fentor creadigol o Gaerdydd. Hi oedd cyd-sylfaenydd y grŵp cerddoriaeth SOURCE, sydd wedi ennill gwobrau, ac mae’n chwarae rhan flaenllaw ym maes celfyddydau ieuenctid cymunedol. Mae hefyd yn perfformio’n rheolaidd ac yn arwain gweithdai llais ledled Cymru.
Tŷ Cerdd yw cartref cerddoriaeth Cymru. O grewyr cerddoriaeth i berfformwyr, ac o sefydliadau a chymdeithasau proffesiynol i grwpiau llawr gwlad, rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo cerddorion o bob genre.
Sionci yw label mewnol Tŷ Cerdd sydd dan arweiniad yr artistiaid ei hun, gan fodoli ochr yn ochr â’n brand presennol, Recordiau Tŷ Cerdd, ac mae wedi’i lunio i alluogi datblygiad creadigol a gyrfa artistiaid ar draws pob genre. Mae’n rhoi’r cyfle i artistiaid gymryd perchnogaeth wrth ryddhau eu cerddoriaeth eu hunain, gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd, ac yna caiff y gerddoriaeth ei dosbarthu drwy PYST.





Comments