Diwedd y daith i raglen gerddorfaol
- 49 minutes ago
- 3 min read

Ym mis Ebrill daeth diwedd i’n rhaglen chwe mis yn datblygu artistiaid, sef Llwybr i’r Gerddorfa, dan arweiniad y gyfansoddwraig Lynne Plowman. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n bleser gweld y garfan yn archwilio dulliau newydd o gyfansoddi ac yn ehangu eu hymarfer i gynnwys ysgrifennu ar gyfer offerynnau cerddorfaol, gan greu nodiant ar gyfer cerddorfa am y tro cyntaf.
Mae Llwybr i’r Gerddorfa yn rhaglen ddatblygu sydd wedi’i chynllunio i dargedu a chefnogi crewyr cerddoriaeth annibynnol sydd wedi dysgu eu hunain ac sy’n cymryd eu camau cyntaf i ysgrifennu ar gyfer ensemble cerddorfaol: clarinét, soddgrwth, ffidil a phiano. Gan adeiladu ar lwyddiant ei fersiwn gyntaf yn 2023–24, nod y Llwybr hwn yw creu mynediad at gyfansoddi cerddorfaol i artistiaid nad yw eu llwybrau i gerddoriaeth wedi dilyn y trywydd traddodiadol trwy gonservatoires neu brifysgolion.
Mewn partneriaeth â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, roedd y crewyr cerddoriaeth a ddewiswyd wedi’u gwahodd i archwilio ysgrifennu cerddorfaol mewn ffordd a oedd yn cysylltu’n uniongyrchol â’u hymarfer a’u gwaith presennol. Eleni, daeth Adjua, Bethan Mai, Dean Yhnell a Sara Evelyn â’u lleisiau cerddorol unigryw eu hunain i’r rhaglen – a’r rhain yn amrywio o gynhyrchu electronig a chyfansoddi caneuon i bîtbocsio ac ymarfer arbrofol, rhyngddisgyblaethol. Arweiniodd y dulliau amrywiol hyn at lunio cyfres o gyfansoddiadau newydd a gafodd eu datblygu a’u mireinio drwy weithdai gyda cherddorion o Gerddorfa Genedlaethol y BBC yn ystod y rhaglen. Aeth pob artist ati i ddefnyddio’r rhaglen yn eu ffordd eu hunain, gan ei defnyddio i ehangu eu hymarfer i gynnwys ysgrifennu ar gyfer offerynnau cerddorfaol. Er bod pob un o’r cerddorion wedi datblygu darn unigol, roedd cael cohort ohonynt wedi creu model ar gyfer cyfnewid a thrafod; gan roi modd rhannu syniadau, cwestiynau a dulliau, a gosod eu datblygiad unigol o fewn cyd-destun creadigol ehangach.
Drwy gyfres o sesiynau unigol ac mewn grŵp gyda’r gyfansoddwraig Lynne Plowman, datblygodd pob artist ei ddarn ei hun wrth feithrin sgiliau ymarferol mewn offeryniaeth, nodiant a pharatoi sgoriau. Yn ogystal, rhoddodd Ethan Davies, Rheolwr Cyhoeddi ac Ymchwil yn Tŷ Cerdd, fentoriaeth unigol benodol mewn nodiant a meddalwedd, gan gefnogi’r garfan i ddefnyddio’r offer hyn yn fanwl am y tro cyntaf. Roedd natur bwrpasol y sesiynau a’r gweithdai wedi cefnogi ystod eang o ddulliau creadigol, gan adlewyrchu’r genres a’r syniadau amrywiol o fewn y grŵp. Daeth pump o berfformwyr gwych Cerddorfa Genedlaethol y BBC – Jessica Feaver (soddgrwth), William White (clarinét), Christopher Williams (piano), Martin Gwilym-Jones (ffidil) a Gwen MacDonald (ffidil) — ag ysbryd hael a chydweithredol i’r gweithdai, gan archwilio ac ehangu posibiliadau helaeth eu hofferynnau gyda phob cyfansoddwr.
Trwy weithdai gyda’r ensemble a mynychu perfformiadau gan Gerddorfa Genedlaethol y BBC, cafodd artistiaid Llwybr i’r Gerddorfa gyfle i brofi syniadau, clywed eu gwaith yn cael ei berfformio gan gerddorion proffesiynol, a datblygu dealltwriaeth gliriach o sut mae cerddoriaeth gerddorfaol yn gweithredu yn ymarferol. Ar gyfer ein sesiwn olaf y mis hwn, recordiwyd pob cyfansoddiad newydd yn Stiwdio Tŷ Cerdd. Rydym yn gyffrous iawn am y darnau hyn, gyda phob un yn adlewyrchiad sensitif a phersonol sydd wedi ymestyn gwaith pob un o’r crewyr cerddoriaeth yn gysyniadol ac yn gerddorol drwy bosibiliadau’r gerddorfa. Bydd y darnau ar gael i wrando arnynt yn fuan – rhagor o wybodaeth i ddod!
Freya Dooley - Rheolwr Datblygu Artistiaid, Tŷ Cerdd




Comments