top of page

Diwrnod Cerddoriaeth Draddodiadol Gymunedol yn agor rhaglen Wilia a Whare

  • 1 hour ago
  • 1 min read

 


Wilia a Whare – Diwrnod Cerddoriaeth Draddodiadol Gymunedol, Theatr Clwyd


Ar ddydd Sul 12 Ebrill, cynhaliodd Theatr Clwyd y diwrnod cerddoriaeth draddodiadol gymunedol cyntaf, Wilia a Whare. Dan arweiniad Awen Blandford a Yasmine Latkowski, gyda chefnogaeth Jordan Price Williams o Tŷ Cerdd, daeth cerddorion ac aelodau o’r gymuned ynghyd i archwilio sut mae traddodiadau’n cael eu trosglwyddo a pham eu bod yn bwysig.


Drwy drafodaeth a chyd-greu cerddoriaeth, myfyriodd y cyfranogwyr ar rôl treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol o fewn ymarfer traddodiadol. Arweiniodd Yasmine sesiwn yn dysgu cân o’r Aifft, gan agor trafodaethau am wahanol ddulliau o ddysgu ac addysgu, a sut y gallwn wneud cerddoriaeth draddodiadol yn fwy hygyrch i ystod ehangach o bobl.


Creodd y diwrnod le ar gyfer cyfnewid, chwilfrydedd a chreu sylfeini cymunedol ar gyfer cryfhau’r celfyddydau traddodiadol.



 

 

Comments


bottom of page