top of page

Ensemble trawsddiwylliannol o’r Gogledd yn rhyddhau ei sengl gyntaf

  • 5 hours ago
  • 2 min read

Mae’r ensemble o’r Gogledd Panedeni yn rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Tafod’, ar 1af Mawrth 2026, sef y trac cyntaf ar eu EP o’r enw Atamanaa




Mae Tafod wedi’i llunio ar y cyd â’r artist Cymraeg Siôn Rickard (Lo Fi Jones) a Yasmine Latkowski (Panedeni), ac mae’n cyfuno geiriau dwyieithog gydag offerynnau taro Eifftaidd a gwerin acwstig. Mae’r gân yn archwilio’r pellter emosiynol rhwng pobl pan fydd y cyfathrebu rhyngddynt yn dod i ben, gan adlewyrchu brwydrau mewn perthnasoedd personol, ac weithiau ceisio cyfathrebu rhwng pobl o wahanol ddiwylliannau i gwrdd yn y canol yn y diwedd. Awgryma’r alawon y sain a glywir mewn cerddoriaeth Arabaidd a cherddoriaeth y Gorllewin, ynghyd â rhythmau Eifftaidd cryf. 


Meddai Yasmine Latkowski: “Mae Tafod yn ddathliad o greu cerddoriaeth sy’n archwilio elfennau o draddodiad a threftadaeth diwylliannol a wnaed yng Nghymru. Mae’r cyd-ysgrifennu gyda Siôn Rickard yn arddangos yr iaith Gymraeg, harmonïau a chydweithio rhwng cerddorion sy’n angerddol am rannu hunaniaeth, cerddoriaeth a diwylliant.” 


Mae’r EP sydd ar y gweill, sef Atamanaa (allan ar 19 Mehefin 2026 ar Recordiau Sionci), yn ehangu sain draws-ddiwylliannol Panedeni, gan gynnwys yr oud, gitâr, ffidil, clarinét, ffliwtiau, bas, a tharo. Mae’r EP wedi’i chanu mewn pedair iaith – sef yn y Gymraeg, Saesneg, Arabeg, a Bosnieg – ac yn cyfuno repertoire traddodiadol â chyfansoddiadau gwreiddiol, gan adlewyrchu ymrwymiad y band i gynhwysiant, a chreu gwaith sy’n dwyn ynghyd dreftadaethau cerddorol gwahanol wrth ddathlu creadigrwydd a rennir trwy gyfuno gwerin cyfoes. 


Bydd Tafod ar gael ar yr holl brif blatfformau ffrydio o 1af Mawrth 2026

Mae Panedeni yn ymddangos mewn un o 15 ffilm a wnaed gan Tŷ Cerdd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, ffilm a ariannwyd gan gronfa Dydd Gŵyl Dewi 2026 Llywodraeth Cymru. Bydd y ffilmiau hyn hefyd yn cael eu rhyddhau ar 1 Mawrth: Tapestri CYM | tycerdd 

Comments


bottom of page