top of page

Meinir Siencyn - Dod i adnabod gwneuthurwr ffilmiau Tapestri   

  • 10 hours ago
  • 3 min read

 


Fel gwneuthurwr ffilmiau, yr hyn dwi am ei wneud ydi taflu sbotolau ar grwpiau cerddoriaeth cymunedol ledled Cymru. Mae’r ffilmiau byrion yma yn blethiad o gerddoriaeth a hanes. Wrth i bob grŵp gyfrannu ei sain, ei iaith a’i etifeddiaeth gerddorol ei hun, maent yn ffurfio tapestri byw o ddiwylliant Cymru gyfoes. 
Roedd y profiad yn un hwylus ac ysbrydoledig, lle’r oedd y lensys a’r camerâu yn gweithredu fel cynulleidfa i’r ymarferion hyn. Roedd y croeso a’r caniatâd o gael mynd i ofod diogel y grwpiau yn hyfryd.” 

 

Pam oedd gen ti ddiddordeb ym mhrosiect Tapestri?  

Cefais fy nenu gan syniad y prosiect o’r cychwyn cyntaf. Roedd y syniad o blethu gwahanol ieithoedd, synau a phrofiadau bywyd ynghyd i greu tapestri diwylliannol yn teimlo’n ysbrydoledig ac yn bwysig, yn enwedig o ran cynrychioli Cymru fel gwlad amrywiol a byw. Gan hefyd ddal perfformiadau neu ymarferion rhai o’n grwpiau traddodiadol hefyd. Dwi’n berson cerddorol ac mae gen i ddiddordeb yn niwylliant Cymru, a dwi’n berson creadigol wrth ffilmio, felly roedd y cyfle wedi apelio’n fawr.  


Sut wyt ti wedi mynd ati i ffilmio’r grwpiau? Beth yw’r broses? 

Mae’r broses wedi bod yn un hynod gydweithredol. Rwy’n treulio amser gyda’r grwpiau, yn cyfathrebu dros e-bost neu ffôn. Wedyn yn gwrando ar eu straeon cyn gwylio’r ymarferion, cyn dechrau ffilmio go iawn. Daw’r camera allan fel estyniad ohonof i fel person, ac mae pawb yn anghofio bod gen i gamera. Mae hyn yn helpu i greu ymddiriedaeth ac i ddeall egni a chymeriad pob grŵp, fel bod y ffilmio’n teimlo’n naturiol ac yn onest.  


Sut wyt ti’n penderfynu beth sy’n mynd yn y ffilm orffenedig? 

Y rhan waethaf ydy gorfod torri pethau allan!! Wrth olygu, dwi’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n teimlo’n wir i’r grŵp – y momentau sy’n dal hanfod eu sain, eu straeon a’u presenoldeb. Hefyd dwi’n dewis y trac cerddorol gorau a grëwyd gan y grŵp, fel bod nhw’n hapus hefyd. Mae’n golygu gwneud penderfyniadau anodd weithiau, ond y flaenoriaeth bob amser ydi cadw cyfanrwydd y profiad a pharchu’r bobl sy’n rhan ohono.  


Faint o amser mae’r prosiect wedi’i gymryd? 

Mae’r prosiect wedi datblygu dros gyfnod sylweddol, o’r trafodaethau cychwynnol a’r cynllunio, drwy’r cyfnodau ffilmio, hyd at y golygu a chyflwyno’r ffilmiau gorffenedig. Mae pob cam wedi cymryd amser er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ofalus ac yn ystyriol. Ond yn wahanol i greu ffilm fer ar gyfer y teledu, mi roedd yn rhaid ffilmio pawb o fewn pythefnos ac wedyn golygu 15 ffilm mewn jyst dros bythefnos.  


Pa heriau wyt ti a’r tîm wedi’u hwynebu? 

Un o’r prif heriau oedd gweithio gyda grwpiau mewn gwahanol leoliadau, pob un gyda’u hamserlenni a’u hanghenion penodol. Roedd sicrhau bod pawb yn teimlo’n gyfforddus o flaen y camera hefyd yn bwysig, ac yn rhywbeth oedd yn gofyn am sensitifrwydd a hyblygrwydd.  


Beth wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf am y gwaith? 

Y peth mwyaf pleserus oedd cwrdd â phobl newydd a chael mynediad at eu byd creadigol nhw. Roedd gweld sut mae cerddoriaeth yn dod â phobl at ei gilydd, ac yn rhoi llais i’w profiadau, yn hynod werthfawr. Ac, yn ôl yr adborth, mi roedd yn braf clywed bod y camera wedi parchu a chodi hyder yn hytrach na’r gwrthwyneb. Mae creu amser pleserus i bawb yn bwysig.  


Disgrifia ddiwrnod perffaith yn ffilmio. Beth sy’n gwneud diwrnod da? 

Mae diwrnod perffaith yn dechrau gyda phawb yn teimlo’n hamddenol ac yn barod i gydweithio. Pan fo’r awyrgylch yn gynnes, mae’r camerâu’n gallu dod yn rhan o’r gofod yn hytrach na bod yn ymyrraeth, ac mae’r momentau gorau’n digwydd yn naturiol.  


Sut fyddi di’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni? 

Dwi’n rhan o dîm dawnsio gwerin, felly dwi’n gwisgo fy ngwisg Gymreig yn aml drwy’r flwyddyn, sy’n neud fi chwerthin bo fi yn gwisgo gwisg Gymreig!! Dwi’n siŵr o ddathlu drwy ddawnsio neu gynnal twmpath. Ond mae hefyd yn gyfle i fyfyrio ar y gwaith creadigol sy’n digwydd ledled y wlad a’r cymunedau sy’n ei gynnal. 



Comments


bottom of page