top of page

Robat Arwyn 1959  

Yn enedigol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, graddiodd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerdydd yn 1980 ac ennill Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth o Aberystwyth yn 1981. Mae'n aelod o Gôr Rhuthun ers 1981 ac yn Gyfarwyddwr Cerdd ers 2007.

 

Mae wedi cyfansoddi deg cyfrol o ganeuon, nifer o ddarnau corawl unigol, a naw sioe gerdd. Comisiynwyd y gweithiau corawl Atgof o’r Sêr ac Er Hwylio’r Haul gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer Syr Bryn Terfel.

 

Mae dros 150 o’i ganeuon wedi’u recordio, gan gynnwys Yfory, Pedair Oed, Benedictus ac Anfonaf Angel. Rhyddhawyd tri chasgliad o'i ganeuon gan Sain - Caneuon Robat Arwyn, Llefarodd yr Haul (gyda Rhys Meirion) a Ffydd Gobaith Cariad.

​

Ymysg ei gomisiynau diweddar mae Sion a Sian (SATB), I Am The Song (TTBB),  Nerth y Gân, Diamonds That Shine In The Night (SSA), a Llwybrau (Soddgrwth & piano).

 

Ymddeolodd fel Prif Lyfrgellydd Sir Ddinbych yn 2017 i ganolbwyntio ar gerddoriaeth, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gomisiwn newydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2018.

ENGLISH

Born in Talysarn in the Nantlle Valley, Robat Arwyn graduated in Music from Cardiff University in 1980 and receivied his Diploma in Librarianship from Aberystwyth in 1981. He joined Côr Rhuthun in 1981 and is their Musical Director since 2008.

 

He has written ten volumes of songs, numerous individual choral pieces, and nine musicals. The choral song cycles Atgof o’r Sêr and Er Hwylio’r Haul were both commissioned by The National Eisteddfod for Sir Bryn Terfel.

 

Over 150 of his songs have been recorded, including Yfory,  Pedair Oed, Benedictus and Anfonaf Angel/Guardian Angel. Three collections of his songs have been released on CD by Sain - Caneuon Robat Arwyn, Llefarodd yr Haul (with Rhys Meirion) and Ffydd Gobaith Cariad.

 

His latest commissions include Sion a Sian (SATB), I Am The Song (TTBB), Nerth y Gân, Diamonds That Shine In The Night (SSA) and Llwybrau (Cello and piano).

 

He retired as Denbighshire County Council's Principal Librarian in 2017 to concentrate on music, and is currently working on a commission for the 2018 National Eisteddfod.

​

bottom of page