Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
I’w rhyddhau ar label Sionci Tŷ Cerdd
22 a 29 Tachwedd
Anarchy Wølf yn lansio albwm newydd yn
Noson Clwb Cynhwysol ym Mangor ar 29 Tachwedd
Mental State – sengl ac albwm gan Anarchy Wølf
Bydd y rapiwr o Gaernarfon, Anarchy Wølf, yn lansio ei albwm gyntaf, Mental State, yn noson glwb gyntaf erioed Bwthyn Sonig yn y Gogledd, sef yn Pontio nos Wener 29 Tachwedd.
Mae Mathew, y dyn tu ôl i’r gerddoriaeth, yn wreiddiol o Fangor ond bellach yn byw yng Nghaernarfon, ac wedi bod yn ysgrifennu ei eiriau ei hun i ganeuon ers ei fod yn ddeg oed. Yn dilyn plentyndod yn llawn dylanwadau cerddorol, mae ef nawr yn lansio albwm o ganeuon gwreiddiol gyda chaneuon sy’n cynnwys ‘Mental State’ a ‘Manifest’, sef cân a ysgrifennwyd ac a berfformiwyd gyda’i ffrind gorau, Josh, yng nghlwb ieuenctid Maesgeirchen pan oedden nhw’n iau gyda phrosiect o’r enw Letters Grow.
Mae albwm Anarchy Wølf wedi’i ddatblygu trwy brosiect Bwthyn Sonig yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, gydag Elin Taylor yn fentor. Mae Bwthyn Sonig yn fenter dan arweiniad Tŷ Cerdd ac mae’n gweithio gyda chrewyr cerddoriaeth sydd ag anabledd dysgu, gan eu cefnogi i ddatblygu cerddoriaeth a pherfformio. Mae Mathew wedi bod yn cymryd rhan yn Bwthyn Sonig ers 2022.
Mae ysgrifennu a chreu cerddoriaeth wedi bod yn achubiaeth i Mathew, ac mae bob amser wedi bod yn ffordd iddo brosesu emosiynau anodd a digwyddiadau mawr bywyd. Caiff ei ysbrydoli gan ystod eang o fandiau a genres, o Linkin Park i Joy Division a Green Day, ac mae ei gerddoriaeth yn gyfuniad tanbaid o rap a roc amgen. Mae wedi bod yn aelod o sawl grŵp cymunedol gan gynnwys Agorad, clwb ieuenctid Maesgeirchen a Thŷ Cegin, Annedd Ni, ac ar hyn o bryd mae’n aelod brwd o Canfod y Gân a Chôr Makaton yng Nghaernarfon.
Cynhelir Noson Clwb Cynhwysol Bwthyn Sonig yn Stiwdio Pontio ar 29 Tachwedd: sef noson o gerddoriaeth ar gyfer pawb gan bobl ag anableddau dysgu a hebddynt. Mae’r noson yn cynnwys y prif westeion arbennig Electric Fire ochr yn ochr â lansio albwm Anarchy Wølf, a llu o artistiaid lleol.
-
6pm: sgwrs a sesiwn jamio
-
7:00pm-10.30pm: gig
Manylion rhyddhau’r sengl:
-
Anarchy Wølf – Mental State – sengl
-
Rhif catalog: TCR052
-
Dyddiad rhyddhau: Dydd Gwener 22 Tachwedd
ar gael ar yr holl lwyfannau ffrydio
Manylion rhyddhau’r albwm:
-
Anarchy Wølf – Mental State – albwm
-
Rhif catalog: TCR053
-
Dyddiad rhyddhau: Dydd Gwener 29 Tachwedd
ar gael ar yr holl lwyfannau ffrydio
Traciau’r albwm:
-
Intro 3’54”
-
I Don’t Care 2’37”
-
Closet Full of Skeletons 3’44”
-
Fortress 0’58”
-
Mental State 2’21”
-
Devil’s Lurking 3’55”
-
Running Around in My Mind 3’28”
-
Meant to Be 2’15”
-
Love is a Drug 2’20”
-
Manifest 2’29”
Sionci yw label Tŷ Cerdd sydd o dan arweiniad artistiaid ac mae’n eistedd ochr yn ochr â’r label presennol Recordiau Tŷ Cerdd. Mae Sionci wedi’i greu i alluogi artistiaid i ddatblygu’n greadigol ac i ddatblygu eu gyrfa, a hynny ar draws pob genre. Gall artistiaid gymryd rheolaeth ar unrhyw ran o’r broses os nad y cyfan – o’r recordio a’r cynhyrchu, i’r gwaith celf a hyrwyddo – a chynigir cyfraniad breindal mwy ffafriol iddynt na label arferol.