Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
+44 (0)29 2063 5640
Wedi'i ryddhau ar label Sionci 01.05.26
Panedeni: Atamanaa
Atamanaa (sef ‘gobeithiaf’ yn Arabeg) yw’r ail sengl a theitl y trac oddi ar EP sydd ar fin ei chyhoeddi gan Panedeni (allan 19 Mehefin 2026 ar Sionci, sef label Tŷ Cerdd dan arweiniad artistiaid) ac mae’n dilyn eu sengl gyntaf, Tafod, cân Gymraeg, yn gynharach eleni. Mae enw’r band, sef ‘Panedeni’, yn cyfuno’r gair Cymraeg ‘paned’ â the Adeni o Yemen, gan symboleiddio diwylliant cyffredin Arabaidd a Chymreig a dod â phobl ynghyd.
Ysgrifennwyd Atamanaa ar y cyd gan Yasmine Latkowski (Panedeni) ac Ayoub Boukhalfa (Côr Un Byd Cymru), gan dynnu ar brofiadau byw o’u treftadaeth yn y Dwyrain Canol (Yemeni a Moroco) ac o fod yn artistiaid sy’n byw yng Nghymru. Gan fod â lleisiau Arabeg swynol, ynghyd â’r offerynnau oud, ffliwt, bas dwbl, ffidil, piano ac offerynnau taro Arabaidd, mae Atamanaa yn codi o hiraeth dwfn am heddwch, ac mae’n neges o gariad a gobaith o Gymru i’r Dwyrain Canol.
Bydd y fideo ar gyfer Atamanaa, a gefnogwyd gan Gronfa Fideos PYST x S4C, hefyd yn cael ei rhyddhau ar 1 Mai 2026. Ffilmiwyd y fideo a’i chyfarwyddo gan Rob Corcoran (73 degree films) yn y Gogledd ger Llangollen gydag Ayoub Boukhalfa, ac mae Yasmine yn disgrifio’r fideo fel “neges o gariad o Gymru i’r Dwyrain Canol”.
Mae’r EP Atamanaa sydd ar fin ei chyhoeddi yn ehangu sain draws-ddiwylliannol Panedeni, gan gynnwys offeryniaeth werin Arabaidd a Chymreig. Mae wedi’i chanu mewn pedair iaith, sef Cymraeg, Saesneg, Arabeg a Bosnieg, ac mae’n arddangos cymysgedd amlddiwylliannol o gerddoriaeth wreiddiol a cherddoriaeth draddodiadol wedi’i hailddychmygu. Mae gwaith Panedeni wedi’i wreiddio mewn cynhwysiant, gan ddathlu amrywiaeth a chreu gwaith sy’n dwyn ynghyd dreftadaethau cerddorol unigryw yng Nghymru.
Meddai Yasmine Latkowski: “Mae Atamanaa yn bersonol iawn i mi ac Ayoub. Ers cyfansoddi’r gân ar-lein heb erioed gwrdd â’n gilydd, rydyn ni bellach wedi’i dysgu i gorau ledled Cymru ac yn edrych ymlaen at ei pherfformio yng Ngŵyl Ymylol Llangollen ar 12 Medi.”
Bydd Atamanaa ar gael ar bob prif blatfform ffrydio o 1 Mai 2026. Bydd Panedeni yn perfformio yn FOCUS Wales ddydd Gwener 8 Mai, 7pm yn HWB (rhagor o wybodaeth yma: FOCUS Wales 2026 Panedeni | FOCUS Wales 2026).


Label dan arweiniad artistiaid Tŷ Cerdd yw Sionci, sy'n eistedd ochr yn ochr â'r brand presennol Tŷ Cerdd Records. Crëwyd Sionci i alluogi datblygiad creadigol a gyrfaol i artistiaid, ar draws genres. Gall artistiaid gymryd rheolaeth o unrhyw ran o'r broses – o recordio a chynhyrchu, i waith celf a hyrwyddo – a chynigir rhaniad breindal mwy ffafriol iddynt na label rheolaidd.

Released on Sionci 01.05.26
Panedeni: Atamanaa
Atamanaa (Arabic for 'I hope') is the second single and title track from Panedeni's forthcoming EP (out 19 June 2026 on Sionci, Tŷ Cerdd’s artist-led label) and follows on from their debut single, Tafod, a Welsh-language song, earlier this year. The band’s name ‘Panedeni’ merges the Welsh word paned (a cup of tea) with Adeni tea from Yemen, symbolising shared Arabic and Welsh culture and bringing people together.
Atamanaa was co-written by Yasmine Latkowski (Panedeni) and Ayoub Boukhalfa (Wales One World Choir), drawing on lived experiences of their Middle Eastern heritages (Yemeni and Moroccan) and of being artists living in Wales. Featuring haunting Arabic vocals, accompanied by oud, flute, double bass, violin, piano and Arabic percussion, Atamanaa comes from a place of deep longing for peace, and is a message of love and hope from Wales to the Middle East.
The video for Atamanaa, which was supported by the PYST x S4C Music Video Fund, will also be released on 1 May 2026. Filmed and directed by Rob Corcoran (73 degree films) in North Wales near Llangollen and featuring Ayoub Boukhalfa, Yasmine describes the video as "a love note from Wales to the Middle East".
The upcoming EP Atamanaa expands Panedeni’s cross-cultural sound, including Arabic and Welsh folk instrumentation. Sung in four languages — Welsh, English, Arabic, and Bosnian — the EP showcases a multicultural mix of original and reimagined traditional music. Panedeni’s work is rooted in inclusivity, celebrating diversity and creating work that brings together distinct musical heritages in Wales.
Yasmine Latkowski says: “Atamanaa is deeply personal to me and Ayoub. Since composing the song online without having ever met, we have now taught it to choirs across Wales and are looking forward to performing it at the Llangollen Fringe Festival on 12th September.”
Atamanaa will be available on all major streaming platforms from 1 May 2026. Panedeni will be performing at FOCUS Wales on Friday 8th May, 7pm at HWB (find out more here: FOCUS Wales 2026 Panedeni | FOCUS Wales 2026).


Sionci is Tŷ Cerdd’s artist-led label sitting alongside the existing marque Tŷ Cerdd Records. Sionci has been conceived to enable creative- and career-development for artists, cross-genre. Artists can take control of any of all of parts of the process – from recording and producing, to artwork and promotion – and are offered a more favourable royalty split than a regular label.



