top of page

Caneuon Cymraeg newydd gan Adjua ac Aisha Kigs wedi’u rhyddhau ar Sionci

Mae’r ddau gyhoeddiad yn bennod newydd i AffriCerdd – sef y bartneriaeth rhwng Tŷ Cerdd â’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cefnogi artistiaid lliw i weithio yn y Gymraeg.


Ym mis Gorffennaf bydd dwy gân Gymraeg newydd yn cael eu rhyddhau gan yr artistiaid addawol o Gymru, Adjua ac Aisha Kigs, ar label Sionci Tŷ Cerdd, sef label dan arweiniad artistiaid.

Crëwyd y caneuon yn wreiddiol gan y ddau artist ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2023 fel rhan o fenter Tŷ Cerdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, gyda’r nod o gefnogi cerddorion lliw i greu caneuon newydd yn yr iaith Gymraeg. Tyfodd y prosiect o ymrwymiad y ddau sefydliad i gefnogi crewyr cerddoriaeth o bob cefndir i greu gwaith yn y Gymraeg.

Cafodd Adjua ac Aisha eu mentora drwy’r broses gan yr artistiaid blaenllaw Eädyth ac Aleighcia Scott – a oedd hefyd wedi perfformio yng nghyngerdd clo’r prosiect ar lwyfan Encore yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan. Gweithiodd Eädyth gyda’r artistiaid (gan fod y ddwy ar ddechrau eu taith yn canu drwy gyfrwng y Gymraeg) gan fynd ati i ddatblygu eu hyder wrth ysgrifennu a pherfformio geiriau Cymraeg – gyda chefnogaeth Aleighcia Scott, a hithau yn siaradwr Cymraeg newydd.

Dechreuodd y fenter yn 2021 fel prosiect Eisteddfod Amgen (o dan y teitl CoDi Cân bryd hynny) pan gafodd pum artist lliw eu cefnogi i ysgrifennu caneuon Cymraeg newydd, a chreu eu fideos cerddoriaeth eu hunain – a’r mentora wedi bod gan Lily Beau, Tumi Williams a Jonny Reed.  

Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu ar gyfer Eisteddfod 2024 – mae bellach o dan ymbarél AffriCerdd. Eleni bydd Eädyth yn mentora’r artistiaid Asha Jane a Frances Bolley i greu caneuon newydd, a byddant yn cael eu perfformio ar lwyfan Encore am 1200 ddydd Iau 8 Awst – ochr yn ochr ag Adjua ac Aisha Kigs, a fydd yn canu caneuon 2023 eto.

Tŷ Cerdd @Eisteddfod 2024

I’w rhyddhau ar Recordiau Sionci ar gael i’w ffrydio a’u lawrlwytho ar yr holl brif blatfformau:


Adjua – Hiraeth TCR046 (hyd: 03:09)

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2024


Aisha Kigs – Llygaid Cudd TCR047 (duration: 04:01)
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2024

Adjua Hiraeth cover image
Aisha Kigs - Llygaid Cudd
bottom of page