Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640


Mae Tomos Williams, a enwebwyd am Wobr Ivor Novello, yn chwaraewr trwmped a chyfansoddwr sydd yn pontio bydoedd jazz a gwerin yn ei gerddoriaeth mewn ffordd bersonol ac unigryw. Mae'n arwain y bandiau Khamira, Burum a 7Steps ac mae hefyd yn cyflwyno sioe jazz ar BBC Radio Cymru o dro i dro. Mae hefyd yn Gadeirydd 'Jazz Explorers Cymru' – sefydliad sy'n hyrwyddo ac yn hybu addysg ac ymwybyddiaeth jazz yng Nghymru.
Cyn ymgymryd â dwy daith ledled Cymru ym mis Hydref, gofynnwyd i Tomos ddweud wrthym am rai o uchafbwyntiau ei yrfa gyffrous ac amrywiol:
​▶ Perfformio gyda Fernhill a Burum
​▶ Cyd-weithio gyda Llio Rhydderch
Aberystwyth
Cefais fy ngeni a'm magu yn Aberystwyth — tref fywiog sy'n cynnig digon o gyfleoedd i glywed a chwarae cerddoriaeth. Roedden ni'n ffodus i gael Gwasanaeth Cerdd eithriadol yng Ngheredigion yn ogystal â chyngherddau rheolaidd gan Gerddorfa Philomusica y dref ynghÅ·d âg ymweliadau gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a'r Hallé. Roedd AberJazz yn fand traddodiadol lleol, ac roedd Meic Stevens i'w glywed yn aml yn Y Cwps.
Roedd cerddoriaeth i'w glywed yn y tÅ· yn aml hefyd. Roedd fy rhieni ill dau yn canu mewn corau ac roedd gan fy Nhad gasgliad clasurol reit gynhwysfawr. Roedd fy Nhad-cu yn gyfansoddwr emynau profiadol ac ef oedd yr organydd yng Nghymanfa Ganu'r Eisteddfod Genedlaethol yn y Barri ym 1968.
Scheherezade gan Rimsky-Korsakov oedd un o fy ffefrynnau cynnar, yn ogystal a Shakin' Stevens! Yna, yn fy arddegau cynnar, darganfyddais y trwmpedwr Lee Morgan. Cyflwynodd hyn 'hard-bop' i fy nghlustiau – math o jazz bywiog sy'n gysylltiedig â'r label recordiau Blue Note. Daeth Horace Silver, Fats Navarro, Joe Henderson, Kenny Dorham, Art Blakey a llawer mwy i'm mywyd ar y pwynt hwn.

Tomos yn perfformio gyda Burum a Jean-Michel Veillon yng ngŵyl 'Festival Interceltique de Lorient' yn 2013

Perfformio gyda Fernhill a Burum
Dydw i erioed wedi ystyried fy hun yn 'gyfansoddwr' fel y cyfryw ond, ar ôl arwain bandiau fel oedolyn, mae'n rhywbeth sydd wedi datblygu, yn enwedig yn y deng mlynedd diwethaf. Perfformiais gyda'r band cerddoriaeth draddodiadol Fernhill yn ystod y 00au ac roedd hyn yn rhan bwysig iawn o fy natblygiad cerddorol. Fe ddysgais gyfoeth o alawon Cymreig, ond fe'm cyflwynwyd hefyd i alawon gwerin Llydaw a thraddodiadau cerddorol eraill nad oeddwn wedi'u profi o'r blaen. Mae fy niolch yn fawr i Ceri Rhys Matthews a Julie Murphy am yr addysg a'r profiadau cerddorol yma.
Fernhill yn perfformio yn Lommel, Gwlad Belg, 2009
Dechreuais drefnu alawon gwerin Cymreig ar gyfer fy chwechawd jazz/gwerin Burum yn y 00s ac yna yn 2014, diolch i gefnogaeth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru cefais y cyfle i deithio gyda nhw i India. Ysgogodd hyn ar fand traws-ddiwylliannol yn cynnwys tri aelod o Burum a thri cerddor o India.
Ein enw yw Khamira (sydd yn meddwl 'Burum' yn Hindi), band sy'n uno cerddoriaeth werin Gymreig, byrfyfyrio a cherddoriaeth glasurol Hindustanaidd o dan ymbarél jazz. Rhoddodd hyn y cyfle i mi gwrdd a pherfformio gyda cherddorion anhygoel ac i gyfansoddi ar gyfer offerynnau traddodiadol India, fel y sarangi a'r tabla.

Cwmwl Tystion / Riot! Yn perfformio yng Ngŵyl Llais, 2023
Cwmwl Tystion
Ar ôl cael y profiad o drefnu ar gyfer Burum a Khamira, yn 2018, dechreuais brosiect newydd o'r enw 'Cwmwl Tystion'.
Bwriad y prosiect hwn oedd ymdrin â hunaniaeth ac hanes Cymru drwy gerddoriaeth a celf weledol fyw. Roeddwn i eisiau i'r gerddoriaeth gynnwys elfennau o fyrfyfyrio, yr avant-garde, minimaliaeth ac alawon gwerin Cymreig. Mae'n bwysig iawn i mi fod fy ngherddoriaeth yn cynnal elfen o 'fod yn Gymraeg' (beth bynnag mae hynny'n ei olygu!), felly defnyddiais alawon gwerin Cymreig, emynau a'r iaith Gymraeg fel elfennau yn fy nghyfansoddiadau. Cafodd carthen Gymreig ei ddefnyddio fel sgôr graffig ar gyfer un o'r symudiadau ac roedd pob perfformiad yn cael ei gyfeilio gan ddelweddau byw a gynhyrchwyd gan Simon Proffitt.
Cafodd prosiect Cwmwl Tystion ei sbarduno i raddau helaeth gan gerddoriaeth y trwmpedwr Wadada Leo Smith a'i albwm Ten Freedom Summers, campwaith sy'n ymdrin â'r profiad Affro-Americanaidd. Roedd gallu Wadada i gyfuno darnau wedi'u cyfansoddi â byrfyfyrio llwyr yn ysbrydoledig. Cefais fy ysbrydoli hefyd gan gerddoriaeth Matana Roberts a'i phrosiect 'Coin Coin', cerddoriaeth Ambrose Akinmusire, John Zorn a'r band Harriet Tubman.
Mae 'bass lines' wedi denu fy nghlust erioed ac rwy'n tueddu i ddechrau cyfansoddi o'r bas bob amser a gweithio fy ffordd i fyny. Dydw i ddim yn siŵr mai dyma'r dull gorau, ond os byddaf yn dod ar draws llinell fas dda, rwy'n hapus i symud ymlaen! Mae cyfansoddi i gynnwys byrfyfyrio rhydd dros linell fas yn ymddangos yn gwbl naturiol i mi, fel y mae croesi ffiniau cerddorol a chyfuno gwahanol arddulliau a 'genres'.
Gyda phrosiectau Cwmwl Tystion, rwyf wedi cyfansoddi tair swît gwahanol, pob un tua 70 munud o hyd ac wedi'u cyfansoddi ar gyfer offeryniaeth pennodol.
Ysgrifennwyd Cwmwl Tystion / Witness(2018) ar gyfer ensemble siambr o biano, ffidil, telyn, bas, trwmped a drymiau ond gyda chwaraewyr fel Rhodri Davies a Huw Warren rydych chi'n siŵr o gael llawer o fyr-fyfyrio creadigol iawn.
Roedd Cwmwl Tystion II / Riot! (2021) yn cynnwys Orphy Robinson ar y vibraffôn, Soweto Kinch ar y sacsoffôn, a llais arbennig Eadyth Crawford. Roedd y Cwmwl Tystion yma yn fwy o 'fand groove' gydag Aidan Thorne a Mark O'Connor ar y bas a'r drymiau ac delio gyda 'terfysgoedd' a chwestiynau yn ymwneud â hîl yn hanes Cymru. Roeddwn yn ymwybodol iawn o sgiliau'r cerddorion, felly cyfansoddais y gerddoriaeth gydag hyn mewn golwg. Mae'r 'Suite' yma yn cynnwys byr-fyfyrio, effeithiau electronig, rap, alawon gwerin Cymreig ac emyn Gymraeg.
Teithiodd Cwmwl Tystion III / Empathy (2024) o amgylch Cymru y llynedd, ac roedd yn cynnwys y basydd Americanaidd Melvin Gibbs a'r gitarydd Ffrengig/Fietnameg Nguyên Lê ochr yn ochr â dwy leisydd benywaidd pwerus o Gymru, Eadyth Crawford a Mared Williams. Roeddwn i'n dychmygu'r band yma fel 'triawd pŵer estynedig' (augmented Power Trio).
Gyda'r tri 'Suite' Cwmwl Tystion, rwy'n ystyried fy hun yn fwy o lywiwr (navigator) nag o gyfansoddwr. Dwi'n creu naws ac awyrgylch pob symudiad, neu'n mapio cyfeiriad cyffredinol y gerddoriaeth, ond yna mae gen i ffydd lwyr yn y cerddorion i ddod â'r gerddoriaeth yn fyw ac i ddod a cymeriad eu hunain i'r gerddoriaeth. Yn yr ystyr hwnnw, nid wyf yn gyfansoddwr 'penodol' o gwbl - rwy'n darparu'r sgerbwd, ond mae'r manylion yn digwydd yn wahanol, noson ar ôl noson. Rwy'n rheoli cyfeiriad y gerddoriaeth drwy roi ciwiau o'r llwyfan hefyd, felly mae'n gymysgedd go iawn o fod yn berfformiwr, arweinydd a chyfansoddwr ar yr un pryd!

Yn heriol yn wleidyddol ac yn gerddorol, efallai bod 'Riot!' wedi'i leoli yn Nghymru ond mae ei themau sy'n ymwneud âg hawliau dynol, a diffyg hawliau dyniol yn berthnasol yn Fyd-eang
All About Jazz adolygiad o Cwmwl Tystion II / Riot! , Ionawr 2024


Tomos yn cymryd rhan yn Nghlws y Cyfansoddwr yn 2024 yng nghwmni Lowri Mair Jones a Nathan James Dearden
Tlws y Cyfansoddwr
Y llynedd, fe wnes i gystadlu yng nghystadleuaeth 'Tlws y Cyfansoddwr' yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ac ysgrifennais gerddoriaeth ar gyfer piano, ffidil, clarinét a cello yn seiliedig ar ddelweddau o Rondda Cynon Taf. Roedd hyn yn fath hollol wahanol o gyfansoddi i mi. Doeddwn i erioed wedi ysgrifennu unrhyw beth mewn cyd-destun mor 'glasurol' o'r blaen, ond roedd yn brofiad gwych a dysgais lawer gan fy nghyd-gystadleuwyr Nathan James Dearden a Lowri Mair Jones yn ystod y broses.
Cyd-weithio gyda Llio Rhydderch
Yn gynnar yn y 2010au, cydweithiais â'r delynores deires o Gymru, Llio Rhydderch, a gyda'n gilydd fe wnaethon ni ryddhau'r albwm 'Carn Ingli' (fflach:tradd). Mae Llio yn drysor cenedlaethol ac yn gerddor o'r radd ucha'. Mae'n cyfansoddi 'yn y fan a'r lle', yn nhraddodiad byrfyfyrio, mae hi'n gadael i'w 'bysedd grwydro'r tannau'. Mae cyd-weithio gyda Llio wedi cael dylanwad dwfn arna' i, ac roedd recordio albwm yn cynnwys trwmped, telyn deires a drymiau yn arwydd cynnar o fy hapusrwydd i gyfuno gwahanol offerynnau a synau.
Gwnaeth Burum hefyd fynd ar daith gyda'r ffliwtydd Llydaweg Jean-Michel Veillon ar wahanol adegau drwy gydol y 2010au, ac roedd gweithio gyda Jean-Michel yr un mor ysbrydoledig. Gallai roi ei bersonoliaeth a'i stamp ar unrhyw sefyllfa gerddorol.

Mark O'Connor, Tomos Williams a Llio Rhydderch wrth recordio 'Carn Ingli' yn 2010 ym Mhentre Ifan
Gosod seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol
Wrth ddod allan o Covid, roedd cymuned jazz Cymru mewn anhrefn llwyr, felly daeth nifer o gerddorion ynghyd i greu 'Archwilwyr Jazz Cymru' (Jazz Explorers Cymru). Cefais fy ethol yn Gadeirydd ar y corff newydd yma sy'n hyrwyddo ac annog digwyddiadau ac addysg jazz yng Nghymru. Rydym bellach wedi tyfu i gynnwys addysgwyr ac hyrwyddwyr jazz yng Nghymru, ac ym mis Ebrill 2025, mewn partneriaeth â CBCDC, a Chelfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, cynhaliwyd cwrs preswyl Jazz Ieuenctid Cymru cyntaf ers cryn dipyn o flynyddoedd. Gobeithiwn y bydd hyn yn parhau ac yn dod yn ddigwyddiad rheolaidd i ieuenctid Cymru.
Gan edrych ymlaen, rwyf wedi cael fy nghomisiynu gan Gŵyl Gerdd Aberystwyth i gyfansoddi cerddoriaeth newydd ar gyfer ensemble jazz yn seiliedig ar Gerddi'r Plant gan Waldo Williams ac yn ystod yr wythnosau nesaf byddaf yn brysur yn teithio Blodeugerdd (prosiect newydd) a gyda Khamira — rwy'n gobeithio eich gweld chi yn un o'n gigs!
​

Cerddorion ifanc yn perfformio yng nghwrs preswyl jazz diweddar yn Nghaerdydd
GIGS AR Y GWEILL
Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar gerddoriaeth ar gyfer fy mhrosiect/band newydd a fydd ar daith ddechrau mis Hydref. Bydd Blodeugerdd / The Great Welsh Songbook yn perfformio trefniannau newydd o alawon gwerin Cymreig gan gymysgu cerddoriaeth werin Gymreig, jazz a byrfyfyrio, a byddwn yn perfformio yn Aberystwyth, yr Wyddgrug, Caergybi a Chaerdydd.
Mae'r band yn cynnwys Huw Warren, Paula Gardiner, Eadyth Crawford, Mark O'Connor a Rachel Musson ac rwy'n gyffrous iawn i glywed y cerddorion arbennig yma yn perfformio fy nhrefniannau. Y gobaith yw y bydd y band yma yn cynnig llais Cymreig o fewn y traddodiad jazz Ewropeaidd.
Hoffwn ddiolch i TÅ· Cerdd am fy ariannu i gyfansoddi'r gerddoriaeth newydd yma ac i Ganolfan Ucheldre, Caergybi am gomisynu un cân newydd.
​
02.10.25 Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth 7.30pm
​
03.10.25 Caffi Isa, Mynydd Isa 7pm
​
04.10.25 Canolfan Ucheldre Centre, Caergybi7.30pm
​
10.10.25 Neuadd Dora Stoutzker, CBCDC, Caerdydd 7.30pm
Tomos Williams (trwmped)
Eadyth Crawford (llais)
Rachel Musson (sacsoffôn tenor)
Huw Warren (piano)
Paula Gardiner (bas)
Mark O'Connor (drymiau)
Mae Khamira hefyd draw yng Nghymru yn ystod mis Hydref i ddathlu ein deng-mlwyddiant. Byddwn yn perfformio yng Ngŵyl Llais, Caerdydd, ac yna yn ymweld âg Abertawe, Arberth a Rhaeadr Gwy.
​
12.10.25 GwÅ·l Llais, CMC, Caerdydd 7.30pm
​
15.10.25 Canolfan y Celfyddydau Taliesin Arts Centre, Abertawe 7.30pm
​
16.10.25 The Plas, Arberth 8pm
​
17.10.25 The Lost Arc, Rhaeadr Gwy 7.30pm
​
Tomos Williams (trwmped)
Aditya Balani (gitâr)
Jonathan Mayer (sitar)
Aidan Thorne (bas)
Mark O"Connor (drymiau)
Vishal Nagar (tabla)
​
perfformiad GwÅ·l Llais yn unig:
Eadyth Crawford (llais)
Amruta Garud (llais)