Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL

International Society of Contemporary Music
Yn galw cyfansoddwyr!
Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd ISCM:
Johannesburg/Cape Town, De Affrica
24 Tachwedd – 3 Rhagfyr 2023
Mae Tŷ Cerdd – Adran Cymru swyddogol International Society for Contemporary Music (ISCM) – yn gwahodd cyfansoddwyr Cymreig/sy’n byw yng Nghymru i gyflwyno eu sgorau i Ddiwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd (DCNB) Johannesburg/Cape Town 2023.
Sioe arddangos ryngwladol flynyddol ar gyfer cerddoriaeth newydd yw Gŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd ISCM – yn cynrychioli gwaith cyfoes o bedwar ban byd ac eleni fe’i cynhelir ym mis Medi. Ceir 16 categori y gwahoddir cyflwyniadau ar eu cyfer i’w cyflwyno yn yr Ŵyl. Gallwch gyflwyno gweithiau drwy anfon fersiwn PDF o’r sgôr ynghyd â recordiad sain neu fideo o’r gwaith (os yw ar gael), neu ddogfennaeth sain/fideo os nad oes gan y gwaith sgôr ysgrifenedig.
Bydd panel Adran Cymru’r ISCM yn asesu’r cyflwyniadau gan roi gerbron chwech o weithiau fel y cyflwyniad swyddogol i’r ISCM. Fel Aelod Cyswllt ISCM, rhaid i'n cyflwyniad gwmpasu o leiaf pedwar o'r categorïau penodedig. Bydd un fan leiaf o’r chwech yma’n cael ei ddethol gan DCNB 2021 i’w berfformio.
Y panel eleni yw:
Lynne Plowman – Cadeirydd Adran Cymru’r ISCM
Daniel Soley – cyfansoddwr; cyflwynwyd ei waith yn DCNB Estonia 2019
Jo Thomas – cyfansoddwr
Deborah Keyser – Cyfarwyddwr, Tŷ Cerdd
Sut i wneud cyflwyniad swyddogol drwy Adran Cymru ISCM:
Gweler isod am wybodaeth bellach am y gofynion, categorïau a’r canllawiau. Dylech eu darllen yn ofalus gan sicrhau bod eich cyflwyniad yn cyflawni’r gofynion ac yn cydymffurfio â’r wybodaeth am y categorïau a’r canllawiau.
Dylech gyflwyno’ch cais gyda’r holl ddogfennau cysylltiedig erbyn 17.00, dydd Llun 22 Chwefror 2021 drwy ein ffurflen ar-lein YMA. (Mae'r adnoddau yma ar gael yn Saesneg yn unig.)
Dylid nodi:
-
Dim ond un gwaith y caiff pob cyfansoddwr ei gyflwyno drwy naill ai cyflwyniad unigol neu gyflwyniad swyddogol.
-
Rhoddir blaenoriaeth i weithiau sy’n fyrrach na 12 munud o hyd ac eithrio lle y nodir yn benodol yn y disgrifiad o’r categori.
-
Rhoddir blaenoriaeth hefyd i weithiau o dan hyd penodedig. Dylid edrych yn ofalus i wirio hyn gan fod pob categori’n wahanol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 17:00, dydd Llun 22 Chwefror 2021
Nid ystyrir ceisiadau hwyr. Hysbysir pob ymgeisydd erbyn dydd Gwener 12 Mawrth a yw ei waith wedi cyrraedd y rhestr fer. Bydd DCNB 2021 yn cyhoeddi’r gweithiau a ddetholir yn y man.
Am ymholiadau, cysylltwch â Shakira Mahabir yn Nhŷ Cerdd: shakira.mahabir@tycerdd.org neu 029 2063 5640.
Mae galwadau artist gan ein cydweithwyr yn adrannau ISCM Prydain a'r Alban hefyd:
Sound and Music
https://soundandmusic.org/compose/iscm/
New Music Scotland
https://newmusicscotland.co.uk/iscm2021/
Cyflwyniad Unigol
Yn lle cyflwyno trwy adran swyddogol gallwch wneud Cyflwyniad Unigol. Rhaid i'r cyflwyniadau hyn gael eu gwneud gan gyfansoddwr annibynnol neu gynrychiolydd awdurdodedig y cyfansoddwr. Mae mwy o wybodaeth ar sut i wneud cais trwy'r dull hwn ar gael YMA
Adran Cymru’r ISCM
Mae ISCM Cymru yn bodoli er mwyn hyrwyddo amcanion yr ISCM, yng Nghymru ac mewn cydweithrediad ag adrannau Prydain, Iwerddon, Yr Alban ac adrannau rhyngwladol eraill. Nod y Gymdeithas yw hyrwyddo cerddoriaeth gyfoes a chodi’i phroffil cyhoeddus drwy rwydweithio effeithiol yn fyd-eang, cyfathrebu a hwyluso gweithgareddau amlochrog rhwng yr aelodau. Ei chenhadaeth yw:
-
Codi proffil cerddoriaeth gyfoes drwy nerth torfol rhwydwaith byd-eang y Gymdeithas a chyfansoddiad ei haelodaeth.
-
Hyrwyddo amlygu, perfformio ac ymchwilio i gerddoriaeth gyfoes drwy fentrau gan ei haelodaeth, yn ogystal â chydweithredu â chyrff cysylltiedig.
-
Arddangos amrywiaeth cerddoriaeth gyfoes yn fyd-eang drwy Ŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd
Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd
Cyfarfod blynyddol i’r ISCM yw Gŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd a drefnir a’i ariannu yn unig gan wahanol adrannau bob blwyddyn, fel llwyfan ar gyfer cyfnewid cerddorol a sioe arddangos i gerddoriaeth gyfoes y byd, heb na rhagfarn na gogwydd o ran gwahanol fathau o fynegiant, arddulliau, genres neu gyfryngau cerddorol. Ei nod yw bod yn fan cyfarfod i sefydliadau, perfformwyr a chyfansoddwyr o gwmpas y byd. Mae Diwrnodau Cerddoriaeth y Byd yn digwydd ar ddyddiau olynol yn y wlad lle y’u cynhelir a gellir eu trefnu ar unrhyw fformat sy’n gweddu i ddewisiadau artistig ac ymarferol y trefnydd yn unol â Statudau’r ISCM, gan adlewyrchu amrywiaeth cerddoriaeth gyfoes. Mae’r Ŵyl yn ymdrechu i gynrychioli holl aelodau dilys yr ISCM rywsut neu’i gilydd drwy weithgareddau ei rhaglenni, gan gynnwys perfformiadau, seminarau, arddangosfeydd a rhwydweithio.