top of page

ADDRODDIAD: Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Cynhyrchwyr Cerddoriaeth sy’n Fenywod ac Anneuaidd 2025


ree

Ym mis Awst, ymunodd dau gynhyrchydd o Gymru, sef Malgola Gulczynska (Malgola, No!) a Natalie Roe, â rhwydwaith o artistiaid-gynhyrchwyr rhyngwladol ar gyfer wythnos ddwys o gynhyrchu cerddoriaeth ar y cyd, dan arweiniad Canolfan Celfyddydau Cenedlaethol Canada. Fe’u cefnogwyd gan Reolwr Datblygu Artistiaid Tŷ Cerdd, Freya Dooley.


ree

Canolfan Banff ar gyfer y Celfyddydau a Chreadigrwydd

Dechreuodd yr wythnos yn yr enwog Banff Center, ac yno – dan gefndir mynyddig hardd – aeth y garfan ati i rannu cerddoriaeth a syniadau newydd, a thrafod yn gefnogol fanteision a heriau’r sector y mae cynhyrchwyr benywaidd, traws ac anneuaidd yn eu hwynebu. Ar ôl taith o amgylch y cyfleusterau recordio a chynhyrchu anhygoel yn stiwdios sain a cherddoriaeth y ganolfan, gwahoddodd y NAC y ddeuawd mam-merch bwerus, Georgina a Crystle Lightning, o Genedl Enoch Cree yn nhiriogaeth Cytundeb 6, i siarad â’r cynhyrchwyr. Yn ystod eu hanerchiad, rhannodd y ddeuawd straeon a phrofiadau ar sut mae eu diwylliant, eu llinach, eu hanes, a’u cysylltiad â’r tir wedi llunio a chynnal eu gyrfaoedd traws-sectoraidd a gydnabyddir yn rhyngwladol.


ree

Canolfan Gerddoriaeth Genedlaethol, Studio Bell, a Gŵyl Werin Calgary

Ar ôl Banff, teithiodd y grŵp i Calgary i dreulio wythnos yn recordio a chynhyrchu cerddoriaeth newydd yn Studio Bell, a leolir yn y Ganolfan Gerddoriaeth Genedlaethol. Wrth gydweithio, creodd y cynhyrchwyr gerddoriaeth newydd ar draws ystod eang o genres, yn ogystal â gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu cynhyrchiad ar gyfer prosiectau presennol. Mae llawer o’r traciau hyn i’w rhyddhau’n fasnachol yn 2026. Perfformiodd nifer o’r cynhyrchwyr hefyd mewn sioe fyw yn lleoliad eiconig King Eddy yn Calgary, a recordio o stiwdio symudol chwedlonol y Rolling Stones. Cafwyd taith i sawl stiwdio recordio lleol ledled y ddinas, a’r genres yn amrywio o ganu gwlad i hip-hop, a’r daith wedi rhoi cipolwg diddorol i’r sîn gerdd gyfoes yn Alberta. Daeth yr wythnos i ben yng Ngŵyl Werin Calgary, lle perfformiodd nifer o’r cynhyrchwyr setiau unigol ac ar y cyd.


ree
ree

Ynghyd â chynhyrchu technegol a chreadigol, mae rhaglen y Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Cynhyrchwyr Cerddoriaeth sy’n Fenywod ac Anneuaidd yn tynnu sylw at werth cydweithredu rhyngwladol, traws-genre. Cyd-gynlluniwyd y rhaglen â phartneriaid mewn gwledydd o bob cwr o’r byd, ac mae’n helpu i oresgyn rhwystrau yn y diwydiant cerddoriaeth a chynnig cyfleoedd parhaus ar gyfer cefnogaeth, trafodaeth, rhwydweithio a chydweithio. Mae’r rhaglen hefyd yn adnodd i gerddorion a labeli recordio i chwilio am gynhyrchydd sydd â hunaniaeth menyw.

 

Mae’r Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Cynhyrchwyr Cerddoriaeth sy’n Fenywod ac Anneuaidd yn fenter i gefnogi cynhyrchwyr cerddoriaeth sy’n fenywod ac anneuaidd a helpu i unioni’r anghydbwysedd rhywedd yn eu maes.


Mae’r Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Cynhyrchwyr Cerddoriaeth sy’n Fenywod yn bartneriaeth rhwng Tŷ Cerdd – Canolfan Cerddoriaeth Cymruyr Eisteddfod Genedlaethol, Sounds Australia, Music Estonia, a’r cydlynydd cynhyrchwyr Belen Fasulis (yr Ariannin). Mae rhan Cymru yn y Rhwydwaith Byd-eang yn gydweithrediad rhwng Tŷ Cerdd - Canolfan Cerddoriaeth Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac fe’i cefnogir gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Comments


bottom of page