Dros dir a môr i WOMEX 25
- Tŷ Cerdd

- Nov 11
- 1 min read

Ym mis Hydref, arweiniodd Tŷ Cerdd, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, dirprwyaeth o saith unigolyn i expo ac arddangosfa cerddoriaeth fyd-eang WOMEX 2025 yn Tampere, y Ffindir. Fel rhan o'r rhaglen, aeth tri o'r ddirprwyaeth o Gymru daith gynaliadwy, artistig ar draws tir a môr, yn cydweithio â grŵp o artistiaid a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant o bob cwr o'r DU. Roedd yn brosiect peilot i fynd ar daith gynaliadwy, gelfyddydol heb hedfan – gyda'r bwriad o osod y sylfaen ar gyfer teithio pwrpasol gydag allyriadau isel, ac ymarfer artistig yn y dyfodol.

Blaenoriaeth allweddol i'r ddirprwyaeth tra oeddent yn WOMEX ei hun oedd atgyfnerthu a datblygu cefnogaeth i ieithoedd a diwylliannau brodorol, a meithrin ymgysylltiad â chynulleidfaoedd ac artistiaid yma yng Nghymru.

Roedd y ddirprwyaeth o Gymru yn cynnwys artistiaid, hyrwyddwyr a gweithwyr proffesiynol yn y sector: Angharad Jenkins (cerddor), Branwen Dickson (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru), Deborah Keyser (Tŷ Cerdd), Dilwyn Llwyd (Neuadd Ogwen, Bala), Elan Evans (rheolydd prosiect), Gwen Màiri (cerddor) a Wynne Roberts (Y Neuadd Lles, Ystradgynlais).
Roberts (The Welfare, Ystradgynlais).








Comments