Lowri Mair Jones Blog: Shaping the future of Fair Access
- Tŷ Cerdd
- 2 days ago
- 3 min read

(Sgroliwch i lawr am y Gymraeg.)
Composer Lowri Mair Jones attended the recent Fair Access Assembly in Birmingham. Hosted by Tŷ Cerdd and Sound and Music, the event brought creatives, sector leaders and inclusion advocates together to reflect and shape the future of the Fair Access Principles.
I was invited by Tŷ Cerdd to participate in the Fair Access Assembly, held in Birmingham on 13 March. This event was organised by Sound and Music in collaboration with Tŷ Cerdd and the organisers felt it was important that composer’s voices were part of the discussion around accessibility to development schemes for music creators.
The assembly brought together representatives from numerous UK arts and music organisations that run schemes for composers and music creators, along with composers and participants who have been part of these initiatives. The discussions were based on the current Fair Access Principles, with the aim of gathering attendees' insights on how these principles could be improved or expanded moving forward.
A wealth of fascinating, stimulating, and thought-provoking ideas and reflections were raised at the event—too many to note here! These ideas broadly fell into three categories: challenges with the current principles, sharing best practices, and thoughts for future improvement.
There was a strong desire within the room to make schemes as inclusive as possible. However, it was also evident that much work remains to be done to ensure that every applicant has a fair and equal opportunity to participate in every scheme. This process will be ongoing as organisations continue to learn and receive feedback from participants and communities.
The key takeaway from the day was the importance of sharing! Coming together as organisations and as a network to share best practice, to learn from one another felt like it was essential.
I had gone with my composer’s hat on, but I also had experience of running a music initiative, and so for me it was easy to relate to the challenges that organisations faced around access, as I also knew of them first hand. But, as a composer who has been successful and unsuccessful in applying for schemes, I certainly gained a much better understanding of the bigger picture surrounding the inequalities people that have access needs face as they try to start and develop their composing career.
Lowri Mair Jones yn y Cynulliad Mynediad Teg

Mynychodd y gyfansoddwr Lowri Mair Jones y Cynulliad Mynediad Teg diweddar ym Mirmingham. Wedi'i gynnal gan Tŷ Cerdd a Sound and Music, daeth y digwyddiad â phobl greadigol, arweinwyr y sector ac eiriolwyr cynhwysiant ynghyd i fyfyrio a llunio dyfodol Egwyddorion Mynediad Teg.
Cefais wahoddiad gan Tŷ Cerdd i gymryd rhan yn y Fair Access Assembly, a gynhaliwyd yn Birmingham ar 13 Mawrth. Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Sound and Music mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd a theimlai’r trefnwyr ei bod yn bwysig bod lleisiau cyfansoddwyr yn rhan o’r drafodaeth o gwmpas hygyrchedd yn enwedig pan yn trafod gynlluniau datblygu ar gyfer crewyr cerddoriaeth.
Daeth y cyfarfod â chynrychiolwyr ynghyd o nifer o sefydliadau celfyddydol a cherddoriaeth yn y DU sy'n rhedeg cynlluniau ar gyfer cyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth, ynghyd â chyfansoddwyr a chyfranogwyr sydd wedi bod yn rhan o'r mentrau hyn. Seiliwyd y trafodaethau ar yr Egwyddorion Mynediad Teg (Fair Access Principles) cyfredol (gweler y ddolen*), gyda'r nod o gasglu syniadau mynychwyr ar sut y gellid gwella neu ehangu'r egwyddorion hyn wrth symud ymlaen.
Daeth nifer o syniadau a myfyrdodau hynod ddiddorol ac ysgogol allan o’r digwyddiad - gormod i'w nodi yma! Roedd y syniadau hyn yn perthyn yn fras i dri chategori: heriau gyda'r egwyddorion presennol, rhannu arferion gorau gydag eraill, a syniadau ar gyfer gwella yn y dyfodol.
Roedd awydd cryf o fewn yr ystafell i wneud darpariaeth cynlluniau o’r math yma mor gynhwysol â phosibl. Fodd bynnag, roedd hefyd yn amlwg bod llawer o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael cyfle teg a chyfartal i gymryd rhan ym mhob cynllun. Bydd y broses hon yn barhaus wrth i sefydliadau cadw i ddysgu a derbyn adborth gan gyfranogwyr a chymunedau.
Un o’r pethau a ddysgwyd o'r diwrnod oedd pwysigrwydd rhannu! Roedd dod ynghyd fel sefydliadau ac fel rhwydwaith i rannu arferion gorau, i ddysgu oddi wrth ein gilydd, yn teimlo ei fod yn hanfodol.
Es i i’r digwyddiad yma gyda fy het cyfansoddwr ymlaen, ond roedd gen i brofiad hefyd o redeg menter gerddoriaeth, ac felly i mi roedd yn hawdd uniaethu â’r heriau yr oedd sefydliadau’n eu hwynebu o ran mynediad, gan fy mod hefyd yn ymwybodol ohonynt yn uniongyrchol. Ond, fel cyfansoddwr sydd wedi bod yn llwyddiannus ac yn aflwyddiannus wrth wneud cais am gynlluniau, yn sicr cefais ddealltwriaeth well o lawer o’r darlun ehangach sy’n ymwneud â’r anghydraddoldebau y mae pobl ag anghenion mynediad yn eu hwynebu wrth iddynt geisio dechrau a datblygu eu gyrfa gyfansoddi.
Comments