Opera Cenedlaethol Cymru yn Cyflwyno Tymor 26/27: Cyfnod Newydd Beiddgar yn 80 oed
- 21 hours ago
- 3 min read
Datganiad i'r wasg Opera Cenedlaethol Cymru
Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein Tymor 26/27, sy’n nodi dechrau newydd, pwerus i’r Cwmni. Wyth deg o flynyddoedd wedi i ni gael ein sefydlu, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dechrau pennod newydd dan arweinyddiaeth y Cyd-gyfarwyddwyr Cyffredinol a’r Prif Weithredwyr Adele Thomas a Sarah Crabtree. Mae’r tymor hwn sydd iddo wedd newydd yn cyflwyno cwmni sy’n torri tir, sydd ag uchelgeisiau rhyngwladol ac sydd wedi’i wreiddio’n gadarn yng Nghymru a chydag agweddau modern ar gyfer yr 21ain ganrif.
Mae Tymor yr Hydref yn agor gyda rhaglen ddwbl werth chweil: Cynhyrchiad gwreiddiol ENO, sydd wedi’i enwebu am wobr Olivier o Bluebeard’s Castle Bartók a chynhyrchiad newydd o Oedipus Rex Stravinsky. Mae’r rhaglen ddwbl hon sy’n cael ei harwain gan Lidiya Yankovskaya a’i chyfarwyddo gan Joe Hill-Gibbins yn edrych ar rym a ffawd drwy lygaid modern. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys Peter Hoare, Christine Rice, a Nathan Berg, a cherddoriaeth ychwanegol gan Hildegard von Bingen.
La bohème gan Puccini sydd i ddilyn. Mewn cynhyrchiad pum seren gan Glyndebourne sy’n cael ei gyfarwyddo gan Floris Visser a’i arwain gan Corinna Niemeyer, daw cast rhyngwladol, sy’n cynnwys Alexia Voulgaridou a Carlos Cardoso, â brwdfrydedd sinematig i’r stori dorcalonnus hon am gariad ifanc.
Mae’r Cyngerdd i Deuluoedd ac Ysgolion yn dychwelyd gyda rhaglen ar y thema chwedlau sydd â’r bwriad o ysgogi dychymyg cynulleidfaoedd ifanc. Mae’n cynnwys cerddoriaeth gan Beethoven, Handel, and Mozart, ac mae’n cynnig cyflwyniad llawn bwrlwm i’r byd opera.
Gan ychwanegu at ein hymrwymiad i ehangu ein repertoire, rydym yn cyflwyno The Anonymous Lover gan Joseph Bologne. Mae’r perfformiad bywiog hwn o’r 18fed ganrif sydd â thro newydd iddo sy’n cael ei gyfarwyddo gan Omar Elerian yn cynnwys Nardus Williams ac mae’n rhan o agwedd newydd ar raglen i waith graddfa siambr. Ar gyfer y cynulleidfaoedd ieuengach (7-12 mlwydd oed), mae Tymor y Gwanwyn yn cynnig Jason and the Argonauts. Dyma alldaith fach, gyflym, 45 munud o hyd sy’n cael ei chyfarwyddo gan Jac Ifan Moore a’i harwain gan yr harpsicord, Stephen Wood.
Daw’r tymor i ben gyda Hedd Wyn: Eisteddfod Atomig, sef cynhyrchiad ar y cyd â Theatr Cymru. Mae’r ffantasia seicedelig hon sy’n sôn am ddyfodol ar ôl apocalypteg yn cael ei pherfformio drwy’r Gymraeg yn unig ac yn cynnwys cerddoriaeth gan Stephen McNeff a libreto gan Gruff Rhys. Caiff ei chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, Steffan Donnelly, a’i harwain gan Iwan Teifion Davies.
Mae Tymor 26/27 yn blaenoriaethu straeon ac artistiaid o Gymru. Mae’r trawsnewid hwn i’w weld yn amlwg mewn ymgyrch newydd sbon gan yr artistiaid o Gymru, Charlotte James a Clémentine Schneidermann (Bleak Fabulous), sy’n cynnwys staff WNO o hyd a lled y sefydliad mewn gwisgoedd llawn i gyflwyno WNO fel cwmni o artistiaid, ond hefyd fel nerth creadigol cyffredin gyda brwdfrydedd newydd. Mae’r ffotograffydd adnabyddus, Jon Pountney, hefyd wedi arsylwi’r Cwmni am y flwyddyn ddiwethaf, gan orffen gydag arddangosfa sy’n glòs ac yn datguddio, yn arsylwi ac wedi’i gwreiddio’n gadarn mewn pobl a lle. Yn ogystal, mae enillydd Gwobr Cerddoriaeth Gymraeg 2025, Don Leisure, wedi ailgymysgu La bohème fel trac sain y tymor.
Yn rhan o ymgais i gefnogi’r gymuned greadigol yng Nghymru, rydym yn falch o gyflwyno Bwlch - Pas yr Artist. Gall artistiaid preswyl yng Nghymru gyrchu tocynnau dros ben am £10 ar gyfer perfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a chael golwg arbennig ar ymarferion gwisgoedd i feithrin y genhedlaeth nesaf o lunwyr cynyrchiadau theatr.
Dywedodd y Cyd-gyfarwyddwyr Cyffredinol, Adele Thomas a Sarah Crabtree: “Mae’r tymor hwn yn llechen lân i WNO. Rydym am i bob cynhyrchiad deimlo fel profiad gwefreiddiol, agos sy’n aros gyda chi.
“Wrth i ni nodi 80 mlynedd, nid ydym yn edrych yn ôl - rydym yn edrych tua’r dyfodol, gyda’r uchelgais o wneud i opera deimlo’n bwysig, yn gyfoes, ac yn fyw i bawb.”






Comments