top of page

Tŷ Cerdd x Eisteddfod 2025

Medal y Cyfansoddwr


ree

Diweddglo llawen i'n wythnos yn yr Eisteddfod oedd dyfarniad Medal y Cyfansoddwr 2025 i Sarah Lianne Lewis. Dros y saith mis diwethaf mae Tŷ Cerdd, ynghyd â'r mentor-cyfansoddwr Pwyll ap Siôn, wedi cefnogi tri chyfansoddwr, a ddewiswyd trwy alwad agored, i ddatblygu darnau newydd yn arbennig ar gyfer triawd o Sinfonia Cymru. Ysgrifennwyd y tair gwaith newydd, gan Sarah Lianne Lewis, Jonathan Guy ac Owain Roberts, mewn ymateb i nofel epig Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd – a chawsant eu perfformiadau cyntaf yn y byd ar lwyfan y Pafiliwn yn seremoni olaf yr Eisteddfod.



ree

Dewisodd y beirniaid Richard Baker, Lleuwen Steffan a Graeme Park Sarah ar gyfer y fedal – a gyflwynir mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru – yn dilyn trafodaethau anodd. Gallwch wylio'r perfformiadau ar S4C Clic am y mis nesaf – creodd y cyfansoddwyr tri darn rhagorol. Mae Tŷ Cerdd yn bwriadu cyhoeddi pob un ohonynt, felly cadwch lygad ar ein gwefan am y teitlau newydd hynny.



Tuag Opera


ree

Daeth llwybr datblygu artist arall i ffrwyth yn yr Eisteddfod: nos Wener, perfformiodd y cantorion Llio Evans, Dafydd Allen, Jeremy Huw Williams a’r pianydd Rhiannon Pritchard chwe darn operatig newydd a grëwyd gan chwe phâr o awduron a chyfansoddwyr a ddaeth ynghyd ar ein llwybr datblygu creadigol, mewn partneriaeth â Theatr Gerdd Cymru. Y partneriaid artist oedd y gyfansoddwr Sarah Lianne Lewis gyda’r awdur Beca Davies; Madame Ceski (Francesca Simmons) gyda TeiFi (Teifi Emerald); Andrew Cusworth gyda Kayley Roberts; Nathan James Dearden gyda Siwan Llynor; Eadyth Crawford gydag Anna Sherratt; Lowri Mair Jones gyda Gwenno Gwilym.



Llwyfan Encore



Daeth ein ffrindiau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru â dau ddatganiad ‘Darganfod Cerddoriaeth Cymru’ i lwyfan yr Encore. Swynodd y myfyrwyr Owain Rowlands, Rhian-Carys Jones a Rhys Archer ni gyda nifer o ganeuon Meirion Williams, yn ogystal â cherddoriaeth gan Dilys Elwyn-Edwards, Brian Hughes a David Vaughan Thomas. Eu pianydd digymar trwy gydol oedd Zoë Smith.




Roedd ein digwyddiad Affricerdd, hefyd ar lwyfan Encore, yn arddangos artistiaid mwyafrif byd-eang gyda chaneuon yn y Gymraeg. Perfformiodd Frances Bolley ei sengl ‘I Siarad’ a ddatblygwyd ar gyfer Affricerdd y llynedd ac a ryddhawyd yn ddiweddar ar Sionci, a hefyd ymunodd ag Eadyth ar gyfer ychydig mwy o ganeuon; a daeth Lily Webbe â’i chân newydd ei hysgrifennu o'r prosiect eleni, a fydd yn cael ei rhyddhau ar Sionci yn y misoedd nesaf.



ree

Arddangosodd Rhys Trimble ei albwm Ynys Dywyll – sydd allan nawr – ac ymunodd Emily Sherratt ar y synth. Cafodd ceryntau, lleisiau ac adleisiau ysbryd cudd Ynys Môn eu sianelu trwy Rhys ac Emily yn uniongyrchol i'r Maes yn Wrecsam. Aeth yr holl elw a godwyd o werthiant CDs a llyfrynnau i fanc bwyd Ynys Môn.



ree

Y tu hwnt i’n digwyddiadau ein hunain cawsom amser i grwydro’r Maes a phrofi gwaith gan ffrindiau. Uchafbwyntiau penodol oedd: opera gymunedol 'Gresffordd: I’r Goleuni Nawr' gan Jon Guy a Grahame Davies, a berfformiwyd gan NEW Sinfonia gydag unawdwyr proffesiynol a chôr cymunedol; a pherfformiad Gwilym Bowen Rhys yn Tŷ Gwerin mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ble y mae wedi bod yn gweithio i ddatgelu ac ail-ddychmygu caneuon gwerin Cymru.


Comments


Commenting on this post isn't available anymore. Contact the site owner for more info.
bottom of page