top of page

Tŷ Cerdd yn cyhoeddi cyllid Loteri newydd ar gyfer Cerddoriaeth Draddodiadol

 

ree


Yr hydref hwn, mae Tŷ Cerdd yn lansio cangen hollol newydd o weithgarwch ym maes Cerddoriaeth Draddodiadol – gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mewn ymateb i’w Adolygiad diweddar o Gerddoriaeth Draddodiadol.


Ynghyd â phenodiad Jordan Price Williams i’r swydd newydd fel Rheolwr Datblygu Cerddoriaeth Draddodiadol, bydd arian ychwanegol ar gael yn ein rowndiau Loteri 2025/26 sydd ar ôl – yn benodol ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol o bob math.


Y dyddiadau cau olaf ar gyfer y cyfnod hwn yw Dydd Mercher 15 Hydref 2025 a Dydd Mercher 21 Ionawr 2026. Edrychwch ar y wybodaeth am y grantiau yma, a chyflwynwch gais o dan y categorïau sy’n bodoli yn barod: Creu, Ymgysylltu neu Ysbrydoli.


Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau am weithgarwch cerddorol sy’n seiliedig ar draddodiadau. Gall hyn gynnwys cerddoriaeth Gymreig neu gerddoriaeth draddodiadol o unrhyw ddiwylliant.


Ein nod yw cefnogi’r ystod ehangaf bosib o gymunedau, artistiaid a thraddodiadau gyda’r adnodd ychwanegol hwn, gan ddathlu amrywiaeth cyfoethog y traddodiadau cerddorol sydd yma yng Nghymru – felly tynnwch sylw eraill at y cyfle hwn.


A’r newyddion mawr yw bod y buddsoddiad ychwanegol hwn yn arwain at greu cronfa newydd sbon o £200k, a fydd wedi’i chysegru i gerddoriaeth draddodiadol, i’w lansio yn y gwanwyn 2026. Cadwch olwg ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol am y diweddaraf.


Comments


bottom of page