top of page

Straeon o archifau Tŷ Cerdd
– ailddarganfod cerddoriaeth Cymru, un bocs ar y tro...

Dêt efo un o dlysau cerddorol mwyaf dirgel Cymru

gan Ethan Davies, rheolwr cyhoeddi ac ymchwil Tŷ Cerdd

Ym mis Ebrill, ymunodd Tŷ Cerdd â chynhadledd IAML DU ac Iwerddon, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, ar gyfer eu gweithgaredd ‘speed-date our artefact’, lle’r oedd cyfranogwyr yn dod ag eitem o’u harchif ac yn ceisio swyno’r gynulleidfa i bleidleisio dros ‘yr arteffact y byddwn i’n ei gymryd adref’.

Dewisais i, o silffoedd Tŷ Cerdd, yr hyn oedd yn debygol o fod yr arteffact eligible hynaf yn y digwyddiad dydd hwnnw. Er ei fod yn 413 oed (ond yn edrych ddim mwy na 90, yn y ffacsimili gan Brifysgol Cymru sydd yn ein casgliad). Gadewch i ni gyfarfod â’r bachelor cyntaf…

“Felly, beth yw dy enw ac o ble rwyt ti’n dod?”

Fy nheitl llawn i ydy Musica neu Beroriaeth (BM Additional MS. 14905), ond mae fy ffrindiau’n fy ngalw’n Llawysgrif Robert ap Huw. Casgliad o gerddoriaeth delyn ydw i, o Fôn… mwy neu lai. Mewn gwirionedd, rwy’n ddisgynnydd uniongyrchol o Lawysgrif William Penllyn, a gollwyd amser maith yn ôl – yn ffodus, rwy’n debyg iawn iddo! Cymaint felly nes bod tua 20 o’m tudalennau wedi’u copïo’n uniongyrchol ohono gan Robert ap Huw.

Mae rôl Ethan Davies yn Tŷ Cerdd yn cynnwys gweithio gyda chyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth, a’u cerddoriaeth ysgrifenedig – weithiau mae’r cyfansoddwyr hynny’n ymwneud â phrosiectau datblygu, gall eraill fod yn gweithio’n broffesiynol y tu allan i’r cynlluniau hyn, ac weithiau mae’n gweithio o sgorau sydd heb eu cyhoeddi neu sydd allan o brint, i barhau ag etifeddiaeth cerddoriaeth y cyfansoddwyr yma. Cyhoeddir llawer o’r gweithiau hyn gan Tŷ Cerdd, ac maent ar gael ar ein siop ar-lein, sydd gwefan mae Ethan yn ei gweinyddu: tycerddshop.com


Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys curadu a chynnal Casgliad Cerddoriaeth Gymreig Tŷ Cerdd (sgorau cerddorol, llyfrau, cerddoriaeth wedi’i recordio, a chymysgedd o eitemau eraill), ein gwaith archifol ledled Cymru, a gweinyddiaeth y llyfrgell llogi. Mae hefyd yn cynorthwyo'n recordiadau stiwdio ac ar leoliad, yn ogystal â chynhyrchu fideo.


Y tu allan i’w waith gyda Tŷ Cerdd, mae’n canu a pherfformio’n gyson gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yn ogystal ag ysgrifennu ei gerddoriaeth ei hun, gweithio ar drefniannau a thrawsgrifiadau, a pherfformio ar offerynnau amrywiol.

[Digon o bersonoli cystadleuydd ‘Blind Date’!]

Gellid dadlau (fel wnes i yn y gynhadledd) bod yr ymgeisydd hon yn un o sylfeini Cymru fel cenedl gerddorol. Yn sicr, dyma’r gerddoriaeth Gymraeg ysgrifenedig hynaf sydd gennym o unrhyw fath, ac mae’n hefyd y gerddoriaeth ysgrifenedig i’r delyn hynaf yn Ewrop. Mae’n dangos y mathau o gerddoriaeth – yn debyg i gerdd dant heddiw – a berfformiwyd yng Nghymru, ac gan gerddorion Cymreig, yn ystod y 17eg ganrif. Mae’n debygol bod rhai o’r alawon yn llawer hŷn, efallai tua 700 mlynedd, ond y cyfan y gallwn ei ddweud yn sicr oedd bod y tonau hyn yn fyw ac yn ffynnu ym 1613 pan gafodd eu hysgrifennu lawr.


Roedd y cyfnod yn nesáu at ddiwedd y traddodiad barddol (traddodiad llafar), ar ôl blynyddoedd o gerddoriaeth lys dan y Tuduriaid. Ymddengys fod hyn wedi pryderu William Penllyn (telynor o’r 16eg ganrif) ddigon i dorri’r dull traddodiadol o wrando-a-dysgu, ac i geisio nodi’r gerddoriaeth er mwyn ei chadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn anffodus, i gerddolegwyr y dyfodol, roedd yn edrych fel hyn:

Robert ap Huw Manuscript

Tudalennau o Lawysgrif Robert ap Huw

Hyd y gwyddom, dyma ffurf nodiant unigryw, a fyddai’n debygol o fod yn ddealladwy i William Penllyn, Robert ap Huw (a gopïodd ran o lawysgrif Penllyn i mewn i’r casgliad hwn), a’r hyn oedd yn weddill o’u cyfoeswyr barddol – ond nid i lawer ers hynny!

Diolch i ganrifoedd o ymchwil – llawer ohono’n gwrthbrofi dehongliadau cenedlaethau blaenorol – gallwn gasglu gwybodaeth o’r llawysgrif am strwythurau cerddorol, alawon, tiwniadau a mwy. Mae’r teitlau a’r nodiadau eraill, wedi’u hysgrifennu mewn hen arddull o Gymraeg, yn awgrymu’r cyd-destunau amrywiol lle’r oedd y gerddoriaeth hon yn cael ei pherfformio: wedi’i pharu â barddoniaeth i foli’r rhai a dalodd am ei chyfansoddiad; alawon eraill i gyd-fynd â chantorion; a rhai darnau offerynnol yn sefyll ar eu pennau eu hunain, megis un darn seremonïol ar gyfer gosod y powlen halen ar Fwrdd Crwn y Brenin Arthur… o leiaf, yn ôl ap Huw! Ac mae’r technegau a ddisgrifir ynddo hyd yn oed yn peintio darlun o hyd eu hewinedd (hir iawn).

Mae’n parhau i gael ei ddehongli heddiw ac mae cymaint wedi’i ysgrifennu ar y pwnc fel nad yw’r cofnod byr hwn ond yn crafu’r wyneb.

Gallwch wrando ar sut y mai’r cerddoriaeth yn swnio yma, ar delyn bray, wedi’i chwarae gan Bill Taylor gyda’r sŵn ‘buzz’ nodweddiadol o offerynnau’r cyfnod. Heddiw, y traddodiadau yng Nghymru sy’n debycaf i’r hyn sydd yn y llawysgrif hon yw’r gerdd dant, sy’n dal i gael ei pherfformio ledled Cymru, yn enwedig yn ein llu o Eisteddfodau. Ac mae Robert Evans a Mary-Anne Roberts, fel Bragod, yn perfformio fersiynau o’r gerddoriaeth hon yn rheolaidd, fel y gwelir yn y llun hwn o Ŵyl NAWR yn Abertawe yn 2025, gyda Mary-Anne yn delweddu’r mesurau deuaidd a geir yn y llawysgrif.

iaml.jpg

Mae IAML yn cynrychioli ac yn hyrwyddo buddiannau llyfrgellwyr cerddoriaeth, llyfrgelloedd, archifau sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth a darparwyr gwybodaeth am gerddoriaeth.

Robert Evans and Mary-Anne Roberts of Bragod, performing at Gŵyl NAWR 2025

Robert Evans and Mary-Anne Roberts of Bragod, performing at Gŵyl NAWR 2025

Mae’r llawysgrif wreiddiol wedi’i chadw yn y Llyfrgell Prydeinig ers 1844 ond gallwch weld fersiwn ar-lein yma.

 

Mae ein fersiwn rhwymedig o lawysgrif Robert ap Huw yn byw ym Mae Caerdydd, ar silff wrth ymyl gwobr ‘speed-dating’ IAML 2026 a enillodd – Dalek, sydd bellach wedi’i enwi’n ‘Robot ap Who’.

IAML dalek.jpg

Gwobr IAML â thema Caerdydd – Dalek – wrth ymyl llawysgrif Robert ap Huw ar silffoedd Casgliad Cerddoriaeth Gymreig Tŷ Cerdd

Further reading
bottom of page