top of page

Dyfarniadau ar gyfer tair partneriaeth cyfansoddwr/cymdeithas gerdd

Pleser o’r mwyaf i DÅ· Cerdd yw cyhoeddi enwau’r partneriaethau cyfansoddwr/cymdeithas sydd wedi’u dewis ar gyfer cynllun BYDIS CoDI. Yn rhan o fenter datblygu cyfansoddwyr TÅ· Cerdd, mae’r cynllun hwn yn paru cyfansoddwyr Cymreig â gwneuthurwyr cerddoriaeth nad ydynt yn broffesiynol o ledled y wlad mewn cyfres o brosiectau a fwriedir i greu gweithiau newydd a ffurfio cysylltiadau rhwng crewyr a chymunedau lleol.

​

​Y tair partneriaeth yw:

GC square.jpg

Gareth Churchill a Chorws Dynion Hoyw De Cymru  — yn datblygu prosiect sy’n gweithio tuag at ddarn perfformio ‘dogfen-gerdd’ sy’n croesi genres. Drwy edrych ar elfennau o destun llafar, lleisiol ac sy’n cael ei gyflwyno’n theatraidd ochr yn ochr â gweadau offerynnol a lleisiol mwy traddodiadol bydd y prosiect yn gweithio tuag at greu sylwebaeth hynod bersonol ar fywyd hoyw cyfoes yn ne Cymru.

​

Carlijn Metselaar headshot 2.jpg

Carlijn Metselaar a Chantorion Cymunedol Ffynnon Taf   — yn cydweithio i greu darn siriol a hwyliog am y Côr a’i gymuned. Bydd yr aelodau’n cymryd rhan mewn sesiynau byrfyfyrio gan greu geiriau a deunydd cerdd a fydd yn ffurfio rhan o ddarn i gôr tair rhan a phiano i’w berfformio yn Taff Fest ym mis Gorffennaf 2020.

 

Owain Roberts head shot.jpg

Owain Roberts a Band Pres Ysgol Syr Hugh Owen — yn datblygu gwaith newydd drwy gyfres o weithdai ac ymarferiadau. Yn ysbrydoli’r myfyrwyr gyda deunydd ffres a gwreiddiol gan eu hannog i arbrofi ac ystyried gwahanol dechnegau chwarae a dulliau perfformio.

TC Enriqueta logo 2.png
TDP logo black.png
Making Music logo BLACK.png
lottery funded logo black.png
S&M.png
ACW black.png
WG.png
bottom of page