CoDI SYMUD
llwybr at gyfansoddi ar gyfer symud ac ymgysylltu ag actorion ag anableddau dysgu
Cafodd pum cyfansoddwr/artist sain o ystod arddulliadol eang, eu recriwtio i weithio yn Academïau Hijinx – sy’n hyfforddi actorion ag anableddau dysgu yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin a Phrestatyn. Roedd y gyfansoddwraig arweiniol Tic Ashfield yn mentora’r cyfansoddi ar gyfer symud / theatr / dawns; daeth cymorth ar gyfer gweithio mewn lleoliad hyfforddi i rai ag anableddau dysgu gan goreograffwyr ac arweinwyr cyrsiau lleol.
Roedd yr artistiaid dethol yn breswyl yn eu Hacademi leol am un sesiwn yr wythnos gan greu gwaith i actorion yr Academi ei berfformio yn eu perfformiad ar y cyd ar ddiwedd y tymor.
Oherwydd argyfwng Covid 19 cafodd y perfformiadau eu gohirio. Er hynny, gallwch chi wrando ar ddarnau a gafodd eu creu ar gyfer CoDI Symud yma:
Tom Elstob: Chaos, Peril and the Great Escape
Teifi Emerald: Cread - and then we came into myth
