Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
+44 (0)29 2063 5640
Rydym yn falch o gyhoeddi bod David Bolitho, Freddie Hodgkinson, Chloe Lovell and Małgola, No wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn CoDI Curiad.
Mae'r llwybr datblygu artistiaid hwn yn cynnig cyfle i bum crëwr cerddoriaeth o Gymru archwilio a datblygu dulliau creadigol o gyfansoddi ar gyfer y llais ac offerynnau taro (gyda thraw a di-draw), trwy gyfres o weithdai gyda'r gantores Emily Thorner, yr offerynnwr taro Julian Warburton, a'r cyfansoddwr-mentor Claire Victoria Roberts.
Trwy sesiynau stiwdio, mentora a chydweithio â'r perfformwyr, bydd yr artistiaid a ddewiswyd yn archwilio dulliau arbrofol o gyfansoddi, gan greu gwaith newydd uchelgeisiol sy'n adlewyrchu ac yn ehangu ar eu hiaith gerddorol a'u hymarfer creadigol eu hunain.
We’re pleased to announce that David Bolitho, Freddie Hodgkinson, Chloe Lovell and Małgola, No have been selected to participate in CoDi Pulse.
This artist development pathway offers five Wales-based music-creators the opportunity to explore and develop creative approaches to composing for voice and percussion (a combination of tuned and untuned instruments), through a series of workshops with vocalist Emily Thorner, percussionist Julian Warburton, and composer-mentor Claire Victoria Roberts.
Through studio sessions, mentoring, and collaboration with the performers, the selected artists will explore experimental approaches to composing for, creating ambitious new work that reflects and expands on their own musical language and creative practice.

David Bolitho
Mae David Bolitho yn artist rhyngddisgyblaethol sy'n gweithio gyda symudiad, sain a choreograffi mewn theatr ddawns, gosodwaith cyhoeddus safle-benodol a gweithdrefnol-ôl-ddynol-ymarfer. Maen nhw'n hoff o eiriau hir a bod yn ffraeth. Mae eu harchwiliad o’r theatr a'u perfformiad ehangach wedi datblygu dros ddau ddegawd a mwy fel cerddor. Mae cerddoriaeth a chyfansoddi bob amser wedi bod wrth wraidd eu hymarfer fel artist annibynnol neu pan yn gweithio ar y cyd fel aelod o gydweithfa celfyddydau amlieithog Cymreig ‘Cyfunol’ ac yn rhyngwladol fel perfformiwr gyda Studio Kokyu, sydd yn rhan o’r fyd-enwog Sefydliad Grotowski. Ochr yn ochr â hyn maent yn trefnu cyfnewidfeydd a labordai rhyngwladol fel un o sylfaenwyr Rhwydwaith Ymarfer Cabane, gan gynnig gweithdai, perfformiadau a chyfrannu at gynadleddau academaidd a chyfnodolion fel ymchwilydd perfformiad. Mae hyn i gyd yn ymdrech i ddarganfod beth yn union sy'n digwydd yn y byd yma. Hyd yn hyn does dim atebion wedi dod i’r amlwg, ond maen nhw'n eithaf siŵr y bydd y cyfan yn dod yn glir gyda dim ond un prosiect, erthygl academaidd neu gomisiwn arall.
David Bolitho is an interdisciplinary artist working with movement, sound, and choreography in dance theatre, site-specific public installation and procedural-post-human-praxis. They like long words and being glib. Their w(o/a)nderings into theatre and expanded performance are built on over two decades as a musician. Musicality and composition have always been at the core of their practice as an independent artist or collaboratively as member of Cymreig interlingual arts collective Cyfunol and internationally as a performer with Studio Kokyu, resident at the world-renowned Grotowski Institute. Alongside this they organise international exchanges and laboratories as a founding member of Cabane Practising Network, offering workshops, performances and contributing to academic conferences and journals as a performance researcher. All this in an effort to find out what exactly is going on after all. So far no answers have been found, but they're pretty sure that with just one more project, academic article or commission they'll have it all figured out.
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

Freddie Hodgkinson
Mae Freddie Hodgkinson yn ddrymiwr a chyfansoddwr o Gaerlŷr sy'n byw ac yn astudio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Mae'n arbenigo mewn datblygu ymagwedd unigryw ac anghonfensiynol at y cit drymiau, gan gyfuno technegau anarferol – trin samplau, defnyddio synths modiwlaidd a phrosesu, gan ddefnyddio tâp – gyda'i astudiaethau clasurol mewn cyfansoddi a'i gefndir mewn jazz. Mae hefyd yn cael ei ddylanwadu gan ei gariad a'i gysylltiad â thraddodiadau cerddoriaeth gwerin Iwerddon, a ysbrydolwyd gan ei deulu, sydd wedi ei arwain i archwilio seinweddau sonig cyfoethog a sut y gallent ddod at ei gilydd. Mae Freddie wedi archwilio llawer o'r syniadau hyn yn drymio ar gyfer y band gwerin arbrofol Spirited Followers, ochr yn ochr â phrosiectau amrywiol eraill. Mae ei waith yn cyfuno elfennau o syniadau cyfansoddi confensiynol, gan archwilio electronig, amgylchynol, jazz a gwerin, a sut mae'r gwahanol feysydd hyn o gerddoriaeth yn rhyngweithio â'i gilydd.
Freddie Hodgkinson is a drummer and composer from Leicester currently residing and studying in Cardiff. He specialises in developing a unique and unconventional approach to the drum kit, combining unusual techniques – manipulating samples, using modular synths and processing, using tape – with his classical studies in composition and his background in jazz. He is also influenced by his love and connection to the Irish folk tradition, inspired by his family, which has led him to explore rich sonic soundscapes and how they can come together. Freddie has explored many of these ideas drumming for experimental Folk band Spirited Followers, alongside various other projects. His work fuses elements of conventional compositional ideas, exploring electronic, ambient, jazz, and folk, and how these differing areas of music interact with each other.
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

Chloe Lovell
Mae Chloe Lovell yn gyfansoddwraig glasurol gyfoes, trefnydd ac ysgrifennydd sgôr o Gaerffili. Ar ôl graddio gyda MMus mewn Cyfansoddi o Brifysgol Caeredin, mae hi wedi mwynhau archwilio cerddoriaeth ar draws sawl maes - cerddoriaeth gerddorfaol, siambr, ffilm a'r cyfryngau. Mae hi wrth ei bodd yn dod â syniadau yn fyw trwy gydweithio a darganfod ffyrdd newydd o gysylltu pobl trwy gerddoriaeth.
Chloe Lovell is a contemporary classical composer, arranger and orchestrator from Caerphilly. After graduating with an MMus in Composition from the University of Edinburgh, she has enjoyed exploring music across orchestral, chamber, film and media settings. She loves bringing ideas to life through collaboration and discovering new ways to connect people through music.
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

Małgola, No
Yn hunan-ddysgedig mewn cynhyrchu, mae Małgola wedi chwarae mewn sawl gŵyl gan gynnwys Liverpool Sound City, NEXT Fest a FOCUS Wales. Cyrhaeddodd albwm Małgola, No, Memory Loss, restr hir Gwobr Gerddoriaeth Cymru 2023. Yn 2025, ymunodd Małgola â charfan Gymreig y Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Cynhyrchwyr Cerddoriaeth Menywod ac Anneuaidd, prosiect dan arweiniad NAC Canada, mewn partneriaeth â Thŷ Cerdd a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Małgola, No is a Polish-Welsh songwriter who explores music and feelings through 60s and 70s inspired piano balladeering, taking the listener on a journey through all shades of pop. With her stage alias inspired by Beach Boys' classic Caroline, No, Małgola creates a musical world of its own, full of curious stories driven by nuanced and captivating song writing. Last year Małgola supported Gruff Rhys (Super Furry Animals) on the Dim Probs tour. She was also awarded Help Musicians Next Level and Gorwelion/Horizons Launchpad funds and is currently working on a new album in collaboration with musicians from the BBC National Orchestra of Wales. Self-taught in production, Małgola has played at several showcase festivals including Liverpool Sound City, NEXT Fest and FOCUS Wales. Małgola, No's album Memory Loss was longlisted for Welsh Music Prize 2023. In 2025, Małgola joined the Welsh cohort of The Global Network for Women and Non-Binary Music Producers, a project led by NAC Canada, in partnership with Tŷ Cerdd and the National Eisteddfod.
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network



