top of page

Y ceisiadau swyddogol Gŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd ISCM 2023, yn Ne Affrica

Mae Tŷ Cerdd yn falch o gyhoeddi’r cyfansoddwyr a’r gweithiau sydd wedi’u dewis gan Adran Cymru yr ISCM (Cymdeithas Ryngwladol Cerddoriaeth Gyfoes) i gynrychioli Cymru yng Ngŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd 2023 yr ISCM, a gynhelir yn Johannesburg a Cape Town, De Affrica, rhwng 24 Tachwedd a 3 Rhagfyr 2023.

Line 1 iscm

Dewisodd panel Cymru chwe cyfansoddwr a gwaith cerddorol i fynd gerbron y rheithgor rhyngwladol:

Bethan Morgan-Williams

Voices Go With You (2021) ar gyfer ffliwt alto, soddgrwth, offerynnau taro, piano

"Mae’n anrhydedd cael fy newis i gynrychioli Cymru ar restr fer ISCM, unwaith eto. Mae’n golygu siawns y gallai fy narn, Voices Go With You, gael gwibdaith i Dde Affrica, a beth fyddai'r perfformiad cyntaf o fy ngherddoriaeth ar bridd Affrica. Cyffrous!"

Joseph Graydon

Ophelia (2022) ar gyfer ffidil a phiano

 

"Mae'r cyfle i fod ar y rhestr fer i gynrychioli Cymru yn ICSM 2023 yn golygu llawer iawn oherwydd y cyfle i arddangos gwaith diweddar i gynulleidfaoedd newydd yn y cyfnod cynnar hwn yn fy ngyrfa. Rwy’n gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda Tŷ Cerdd ac yn dymuno pob lwc i’r cyfansoddwyr eraill ar y rhestr fer yn eu categorïau priodol."

Kiko Litang Shao

The leaf says… (2022) ar gyfer wythawd cymysg

"Rwyf wrth fy modd i gael fy newis am y tro cyntaf fel un o chwe chyfansoddwr yr Adran Gymreig ISCM eleni. Mae ISCM yn llwyfan gwych i roi cyfle anhygoel i gwrdd â chyfansoddwyr amrywiol o bob rhan o’r byd ac i ddysgu mwy am wahanol fathau o gerddoriaeth gyfoes. Rwy’n teimlo’n hynod ddiolchgar fy mod wedi cael fy newis ar gyfer y rhestr fer hon. Diolch yn fawr iawn am y cyfle hwn."

Nathan James Dearden

i breathe (2021) ar gyfer côr SATB

"Mae i breathe yn dal lle arbennig iawn yn fy nghalon, gan ei fod yn adlewyrchu gwaith anhygoel cerddorion ifanc o bob rhan o’r wlad a’n hymwneud â’r tirweddau yr ydym yn caru ac amddiffyn. Mae’n anrhydedd i mi i weld y darn ar y rhestr fer i gynrychioli Cymru ar gyfer Diwrnodau Cerddoriaeth y Byd ISCM 2023, ac edrychaf ymlaen at barhau â’m perthynas â chymuned ISCM."

Richard Barrett

until you are that ghost (2022) ar gyfer soprano, ffliwt, clarinèt

"Y peth pwysicaf i mi am fy nghyfansoddiad yn cael ei gyflwyno i Ddiwrnod Cerddoriaeth y Byd ISCM yw fy mod i’n cynrychioli Cymru, a, gobeithio, ynghyd â’m cyd-enwebeion, yn helpu i bwysleisio bod gwaith cerddorion creadigol Cymreig yn perthyn i fforwm rhyngwladol fel hyn."

Richard McReynolds

12123 (2023) ar gyfer electroneg fyw

"Mae’n anrhydedd cael bod ar restr fer yr Adran Gymreig ISCM. O greu cerddoriaeth a digwyddiadau yng Nghymru oedd sut y daeth y darn hwn i fodolaeth, felly mae'n wych gallu hyrwyddo'r sin gerddoriaeth Gymraeg."

Bydd o leiaf un o’r chwe darn sydd yn ein cais cenedlaethol yn cael ei berfformio yn ystod yr ŵyl (gall y rheithgor rhyngwladol, fodd bynnag, ddewis mwy nag un).

Derbyniwyd dros 40 cais gan gyfansoddwyr Cymreig ac o Gymru, ar draws 12 categori. Disgwylir cyhoeddi’r gwaith a ddewisir i’w berfformio yn ystod y digwyddiad 10-diwrnod yn yr Haf. Bydd Gŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd 2023 yn rhoi llwyfan pwysig i’r cyfansoddwr dethol, ac yn gyfle allweddol i broffil Cymru, ei chyfansoddwyr a’r maes cerddoriaeth newydd.

Cafodd y rheithgor eu synnu gan nifer ac ansawdd y ceisiadau a chan amrywiaeth yr arddull, gan roi cipolwg trawiadol ar yr ystod o waith sy’n cael ei lunio yng Nghymru, a thu hwnt, gan gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth Cymreig.

Adran Cymru’r ISCM
Mae ISCM Cymru yn bodoli er mwyn hyrwyddo amcanion yr ISCM, yng Nghymru ac mewn cydweithrediad ag adrannau Prydain, Iwerddon, Yr Alban ac adrannau rhyngwladol eraill. Nod y Gymdeithas yw hyrwyddo cerddoriaeth gyfoes a chodi’i phroffil cyhoeddus drwy rwydweithio effeithiol yn fyd-eang, cyfathrebu a hwyluso gweithgareddau amlochrog rhwng yr aelodau. Ei chenhadaeth yw:

  • Codi proffil cerddoriaeth gyfoes drwy nerth torfol rhwydwaith byd-eang y Gymdeithas a chyfansoddiad ei haelodaeth.

  • Hyrwyddo amlygu, perfformio ac ymchwilio i gerddoriaeth gyfoes drwy fentrau gan ei haelodaeth, yn ogystal â chydweithredu â chyrff cysylltiedig.

  • Arddangos amrywiaeth cerddoriaeth gyfoes yn fyd-eang drwy Ŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd

bottom of page