01-08.08.26 Tŷ Cerdd - Eisteddfod 2026
- Aug 3
- 4 min read

Eisteddfod 2026Garreg Las 1-8 Awst/August
Mae presenoldeb Tŷ Cerdd yn yr Eisteddfod garreg filltir hon, sy’n dathlu 850 mlynedd ers sefydlu’r ŵyl, yn dathlu cyfoeth ac amrywiaeth cerddoriaeth Cymru ar draws canrifoedd a genres.
Tŷ Cerdd’s presence at this milestone Eisteddfod – the event’s 850th birthday – celebrates a diversity of Welsh music, spanning centuries and genres.

DYDD SADWRN/SATURDAY 01.08.26, 13:30 (Encore)
Tŷ Cerdd + CBCDC/RWCMD
Huw Warren + Kat Rees
Mae’r pianydd a’r cyfansoddwr o fri rhyngwladol Huw Warren yn ymuno â chantores jazz Gymreig Kat Rees ar gyfer perfformiad unigryw yn yr Eisteddfod. Gan gyfuno jazz cyfoes â thraddodiadau cerddorol Cymru, mae’r cydweithrediad yn dwyn ynghyd gelfyddyd glodwiw Warren â llais unigryw Rees. Bydd y perfformiad yn cynnwys cyfansoddiadau jazz gwreiddiol yn y Gymraeg.
Huw Warren is joined by Welsh jazz vocalist Kat Rees for a unique performance at the Eisteddfod. Blending contemporary jazz with Welsh musical traditions, the collaboration brings together Warren’s acclaimed artistry with Rees’s distinctive voice. The performance will feature original Welsh-language jazz compositions.

DYDD MERCHER/WEDNESDAY 05.08.26, 12:15 (Encore)
Tŷ Cerdd + CBCDC/RWCMD
Darganfod Cerddoriaeth Gymreig – Dewch i Ganu
Canu cyfranogol dan arweiniad y soprano Jessica Robinson, gyda thri chân gan Mansel Thomas yn ganolbwynt i'r gweithdy. Croeso i gantorion brwd o bob lefel!
Discover Welsh Music – Come and Sing
Participatory singing led by soprano Jessica Robinson, taking three Mansel Thomas songs as the centrepiece of the workshop. All levels of keen singers welcomed!

DYDD GWENER/FRIDAY 07.08.26, 14:45 (Encore)
Tŷ Cerdd + Eisteddfod Genedlaethol
AffriCerdd
Menter datblygu artistiaid sy’n cefnogi cerddorion o liw i greu caneuon newydd yn y Gymraeg. Eleni, bydd Seraphyre (Sera Boudreau o Abertawe) yn cyflwyno cân newydd a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur hwn, o’r enw ’Y Garreg Las, fel teyrnged i Eisteddfod 2026.
An artist-development initiative, supporting musicians of colour to create new songs in the Welsh-language. This year’s set is from Seraphyre (Swansea-based artist Sera Boudreau) who has created a song specially for this event, entitled ‘Y Garreg Las’, as a tribute to the 2026 Eisteddfod.

DYDD GWENER/FRIDAY 07.08.26, 19:30 (Stiwdio)
Tŷ Cerdd, Prifysgol Aberystwyth University, Music Theatre Wales
Tuag Opera
Yn 2025, cyflwynwyd chwe darn newydd o opera Gymraeg yn yr Eisteddfod – canlyniad uniongyrchol cynllun datblygu creadigol a barodd chwe awdur â chwe chyfansoddwr. Eleni, mae tri o’r gweithiau hynny’n dychwelyd ar ôl cael eu datblygu ymhellach yn gyfansoddiadol. Dewch i ddarganfod opera newydd gyffrous o Gymru gan Nathan James Deardean (libreto Siwan Llynor), Lowri Mair Jones (Gwenno Gwilym) a Sarah Lianne Lewis (Beca Davies).
In 2025, six new Welsh-language opera fragments were shared at the Eisteddfod – the direct result of a scheme that paired six writers with six composers across a creative development pathway. This year, three of those pieces return – having undergone further compositional development. Join us to uncover emerging new opera from Wales by Nathan James Deardean (libretto Siwan Llynor), Lowri Mair Jones (Gwenno Gwilym) and Sarah Lianne Lewis (Beca Davies).

DYDD SADWRN/SATURDAY 08.08.26, 13:30 (Encore)
Tŷ Cerdd + CBCDC/RWCMD
Darganfod Cerddoriaeth Cymru – Caneuon a barddoniaeth
Dan arweiniad Rhys Archer (tenor), cyflwyniad o gerddoriaeth a barddoniaeth Sir Benfro gan fyfyrwyr CBCDC.
Discover Welsh Music – Songs and poetry
Led by Rhys Archer (tenor), students from the RWCMD present music and poetry of Pembrokeshire.

DYDD SADWRN/SATURDAY 08.08.26, 15:00 (Stiwdio)
Tŷ Cerdd + Eisteddfod Genedlaethol
Medal y Cyfansoddwr
Wedi proses ddatblygu chwe mis, lle bu Andrew Cusworth, Claire Victoria Roberts a Gwenno Morgan (a ddewiswyd drwy alwad agored o blith 30 o gyfansoddwyr) yn datblygu gweithiau corawl newydd sy’n gosod geiriau Waldo Williams. Mae pob cyfansoddwr wedi ysgrifennu un darn ar gyfer côr plant ac un ar gyfer côr SATB. Bydd pob un o’r chwe gwaith newydd yn cael ei berfformiad cyntaf erioed gerbron cynulleidfa a phanel o feirniaid. Cyhoeddir enillydd Medal y Cyfansoddwr mewn seremoni am 18:00 yn y Pafiliwn (gweler isod).
The culmination of a six-month development process, in which Andrew Cusworth, Claire Victoria Roberts and Gwenno Morgan (selected by open call from a field of 30 composers) have developed new choral works setting words by Waldo Williams. Each composer has written a piece for children’s choir, and one for SATB – all six new works receive their world premieres here to a public audience and a panel of judges. The Medal y Cyfansoddwr will be awarded in ceremony at 18:00 in the Pafilwn (see below).
DYDD SADWRN/SATURDAY 08.08.26, c. 18:00 (Pafiliwn)
Tŷ Cerdd + Eisteddfod Genedlaethol
Medal y Cyfansoddwr
Fel rhan o seremoni Medal y Cyfansoddwr eleni, perfformir tri darn corawl newydd ar gyfer côr SATB gan Andrew Cusworth, Claire Victoria Roberts a Gwenno Morgan.
Three new choral pieces for SATB by Andrew Cusworth, Claire Victoria Roberts and Gwenno Morgan are performed as part of the ceremony to award this year’s Medal y Cyfansoddwr.
I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau Tŷ Cerdd yn yr Eisteddfod, neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch ag enquiries@tycerdd.org neu deborah.keyser@tycerdd.org
For any further information on Tŷ Cerdd’s Eisteddfod activity, or to arrange interviews, please contact enquiries@tycerdd.org or deborah.keyser@tycerdd.org






Comments