top of page

19.07.26 Wilia a Whare: Traddodiadau mewn Sgwrs

  • Jun 18
  • 2 min read


Wilia a Whare: Traddodiadau mewn Sgwrs

Dydd Sul 19 Gorffennaf, 11:00-15:00

Ystafell 202, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd


Diwrnod sy'n dod â phobl o gymunedau diwylliannol amrywiol Caerdydd ynghyd i archwilio sut mae traddodiadau'n cydfodoli, yn gorgyffwrdd ac yn esblygu.


Trwy rannu synau, atgofion a thrafodaeth, byddwn yn edrych ar sut mae cerddoriaeth, stori a hunaniaeth yn teithio, yn cwrdd ag yn newid a sut y dylai sin traddodiadol ryngddiwylliannol gynhwysol i Gaerdydd edrych.



ARWEINWYR

Mary-Anne Roberts a Patrick Rimes 


TROSOLWG O'R DIGWYDDIAD 

Mae'r sesiwn hon yng Nghaerdydd yn rhan o gyfres Wilia a Whare Tŷ Cerdd, sy'n archwilio sut y gellir cefnogi, cynnal a chryfhau cerddoriaeth draddodiadol ledled Cymru. Cynhelir y digwyddiad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Ystafell 202. 


Bydd sesiwn Caerdydd yn canolbwyntio ar hunaniaeth, stori a pherthyn mewn cerddoriaeth draddodiadol, gan archwilio sut mae dylanwadau diwylliannol gwahanol yn cyfuno i greu hunaniaethau a thraddodiadau unigryw. Bydd y sesiwn yn dod â phobl ynghyd o gymunedau diwylliannol amrywiol Caerdydd i drafod sut mae traddodiadau yn cydfodoli, yn gorgyffwrdd ac yn esblygu o fewn y ddinas. 


Drwy drafodaeth, rhannu profiadau a myfyrio ar y cyd, bydd cyfranogwyr yn archwilio: 

  • Sut mae cerddoriaeth, straeon a thraddodiadau yn teithio rhwng cymunedau a chenedlaethau 

  • Sut mae hunaniaethau diwylliannol yn cael eu llunio drwy draddodiadau cerddorol 

  • Ble mae traddodiadau gwahanol yn cyfarfod, yn dylanwadu ar ei gilydd ac yn esblygu 

  • Sut olwg allai fod ar sîn gerddoriaeth draddodiadol ryngddiwylliannol gynhwysol yng Nghaerdydd 

  • Sut y gall cymunedau amrywiol Caerdydd gyfrannu at ddyfodol cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru 


FFORMAT

Digwyddiad anffurfiol sy'n cael ei arwain gan drafodaeth yw hwn, yn hytrach na pherfformiad neu gynhadledd. Anogir cyfranogwyr i rannu profiadau, myfyrio ar eu traddodiadau eu hunain a dysgu oddi wrth ei gilydd. Y ffocws yw sgwrsio, cyfnewid syniadau a meithrin perthnasoedd. 


CYNULLEIDFA DARGED 

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan: 

  • Cerddorion a chantorion 

  • Arweinwyr cymunedol 

  • Ymarferwyr diwylliannol 

  • Addysgwyr 

  • Trefnwyr a chynhyrchwyr 

  • Pobl sy'n ymwneud â threftadaeth, diwylliant a gweithgarwch cymunedol 

  • Unigolion o gymunedau diwylliannol amrywiol Caerdydd 

  • Unrhyw un sydd â diddordeb mewn traddodiad, hunaniaeth a chyfnewid diwylliannol 


NEGESEUON ALLWEDDOL 

  • Mae cerddoriaeth draddodiadol yn cael ei siapio gan symudiad, cyfnewid a phrofiadau a rennir. 

  • Mae amrywiaeth ddiwylliannol Caerdydd yn gryfder ac yn rhan bwysig o dirwedd cerddoriaeth draddodiadol y ddinas. 

  • Mae'r digwyddiad yn agored i bobl o ystod eang o gefndiroedd a thraddodiadau. 

  • Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol am gerddoriaeth draddodiadol i gymryd rhan. 

  • Nod y sesiwn yw creu gofod ar gyfer deialog, gwrando a dysgu ar y cyd. 

  • Bydd cyfranogwyr yn helpu i lunio syniadau am ddyfodol sîn gerddoriaeth draddodiadol ryngddiwylliannol gynhwysol yng Nghaerdydd. 




Comments


bottom of page