top of page

SWYDD: Cynorthwyydd Grantiau a Phrosiectau 26.05.26

  • 23 hours ago
  • 2 min read


Mae Tŷ Cerdd yn recriwtio Cynorthwyydd Grantiau a Phrosiectau am 15 awr yr wythnos i ymuno â’n tîm sy’n fach ond yn egnïol.


Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Grantiau a Phrosiectau sy’n hynod drefnus ac sy’n dda am roi sylw manwl i fanylion i wneud gwaith gweinyddol bob dydd ar raglenni ariannu Tŷ Cerdd.


Bydd y rôl yn cydweithio’n agos gyda Phennaeth Cyllid a Gweinyddiaeth gan fod yn gyfrifol am sicrhau bod ceisiadau, penderfyniadau, taliadau ac adroddiadau cwblhau yn cael eu gweinyddu’n gywir ac yn effeithlon.


Rhan allweddol o’r rôl yw cynnal a datblygu ein cronfa ddata ariannu a’n systemau llif gwaith. Mae Tŷ Cerdd yn rheoli ei broses ariannu drwy Airtable, gyda chefnogaeth ffurflenni Fillout. Felly, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus angen sgiliau cryf mewn rheoli systemau a chronfeydd data, ynghyd â’r hyder i weithio gyda phrosesau digidol, a chynnal a gwella’r prosesau hynny.


Byddai’r rôl hon yn addas i rywun sy’n mwynhau gwella systemau a rhoi trefn ar bethau, ynghyd â chefnogi cydweithwyr, a’r oll wrth gyfathrebu’n glir ac yn gymwynasgar gydag ymgeiswyr a phartneriaid.


Yn ogystal â gwaith gweinyddu’r cyllido, bydd deiliad y swydd hefyd yn rhoi cymorth gweinyddol i ystod o brosiectau Tŷ Cerdd. Gall hyn gynnwys rheoli cofrestriadau i ddigwyddiadau, diweddaru cynnwys y wefan, trefnu teithio a llety, a chefnogi’r gwaith gweinyddol ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd a gweithgarwch arall prosiectau.


Contract ac oriau      

15 awr yr wythnos, am gyfnod penodol o un flwyddyn i ddechrau arni


Lleoliad                      

Caerdydd (ond gall deiliad y swydd weithio o bell o unrhyw le yng Nghymru)


Cyflog                         

£25,878  pro rata


Pensiwn                     

Cynllun Ymddeol Cyngor Celfyddydau Lloegr


Yn adrodd i                

Pennaeth Cyllid a Gweinyddu


Dyddiad cau              

12 hanner dydd, Dydd Mawrth 26 Mai 2026


Cyfweliadau               

Dydd Mawrth 9 Mehefin 2026, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd


Pecyn swydd



Comments


bottom of page