top of page

Mae TÅ· Cerdd yn chwilio am ymddiriedolwyr newydd

Cenhadaeth TÅ· Cerdd yw cefnogi artistiaid, cymunedau a chynulleidfaoedd i greu, perfformio a chymryd rhan yng ngherddoriaeth Cymru.

​

A’n gweledigaeth: rydyn ni’n dychmygu Cymru lle y galluogir crewyr cerddoriaeth o bob genre a chefndir i gerddora a datblygu gyrfaoedd; lle y gall amrywiaeth o bobl a chymunedau ymgysylltu â cherddoriaeth Gymreig a’i mwynhau.

​

Os ydych yn cerddora yng Nghymru, cerddoriaeth Gymreig yw hi!

Rydym yma:​

  • i ddod â cherddoriaeth Cymru i gynulleidfaoedd ar draws ein cenedl, ac i weddill y byd.​

​

  • i ddiogelu cynhysgaeth cerddoriaeth Cymru o’r gorffennol, i feithrin cerddoriaeth Cymru’r presennol, ac i yrru datblygiad cyfansoddiad newydd.

​

  • ​i gefnogi’r sector proffesiynol a’r rheini nad ydynt yn broffesiynol, perfformwyr a chynulleidfaoedd, i berfformio, cyfansoddi a phrofi cerddoriaeth Cymru.

Ymddiriedolwyr newydd​

Rydyn ni am recriwtio ymddiriedolwr newydd i ymuno â’n Bwrdd medrus ac angerddol.

​

Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl sydd ag arbenigedd mewn cyfrifon/rheolaeth ariannol (yn enwedig mewn cyfrifeg elusennau), mewn marchnata a chynhyrchu incwm/datblygu busnes.

​

Mae ystod y gweithgarwch yn TÅ· Cerdd yn anhygoel o eang ac rydyn ni am i’n Bwrdd adlewyrchu’r ehangder hwnnw – ac, yn bwysig, adlewyrchu’r Gymru fodern, amrywiol, a’r holl brofiad, cefndiroedd diwylliannol a genres cerddorol a ddaw yn ei sgil. Yn unol â'n hymrwymiadau i'n Gonglfeini, rydym yn awyddus i dderbyn geisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli neu wedi wynebu esgeulustod neu waharddiad o gymuned y celfyddydau. Rydym yn hynod groesawi ceisiadau gan bobl anabl a niwroamrywiol, pobl sy’n Du, Asiaidd ac o’r mwyafrif byd-eang, pobl sy’n LHDTC+ a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

​

Darganfyddwch fwy amdanom ni trwy’n gwefan, darllenwch ein Conglfeini isod, ac os ydych â diddordeb (neu’n adnabod rhywun efallai bydd â diddordeb), mae’r wybodaeth am sut i wneud cais isod.

Conglfeini
Mae gwaith TÅ· Cerdd wedi’i adeiladu o amgylch conglfeini cryf sy’n fframio ei genhadaeth.
 

Beth mae bod yn Ymddiriedolwr TC yn ei olygu?

Mae ein Bwrdd yn cyfarfod bob chwarter, ac rydym yn trefnu 12 mis o gyfarfodydd ar ddechrau pob blwyddyn galendr, gan geisio ymateb cymaint ag y gallwn i amserlenni ac argaeledd ein hymddiriedolwyr. Mae'r prif gyfarfodydd llywodraethu hyn weithiau ar-lein ac yn aml yn hybrid (ar-lein ac yn bersonol ar yr un pryd).

​

Yn y misoedd rhwng cyfarfodydd llywodraethu, rydym yn cynnal 'Board Shorts' – sesiynau mwy anffurfiol, ar-lein, awr o hyd sy’n galluogi ymddiriedolwyr i fynd o dan foned rhywfaint o’n gwaith, ac i hyrwyddo rhannu rhwng y Bwrdd a’r Staff. Nid yw pawb yn dod i bob un o'r rhain bob mis, sy'n iawn; maent wedi creu lle ar gyfer rhannu syniadau a chynyddu dealltwriaeth.

​

Nid yw rôl ymddiriedolwr yn un feichus, ond wrth gwrs mae ganddi'r cyfrifoldebau cyfreithlon sy'n gysylltiedig â bod yn gyfarwyddwr elusen.

​

Mae ein hymddiriedolwyr yn dweud wrthym eu bod yn mwynhau ymgysylltu â'i gilydd a chyda'n sefydliad bywiog. Ochr yn ochr â'r busnes difrifol o oruchwylio elusen, mae aelodaeth bwrdd TC yn gyfle gwych i gefnogi cerddoriaeth Gymreig, cwrdd â phobl newydd a rhannu eich profiad a’ch arbenigedd eich hun.

​

 

Felly hoffech chi wneud cais i ymuno â thîm llywodraethu TC? 

E-bostiwch Abby Charles gan ateb y cwestiynau canlynol erbyn 17:00 ddydd Mawrth 10 Mehefin
(DS: derbynnir ceisiadau fideo hefyd – anfonwch eich fideo heb fod yn hirach na 5 munud  gan ymdrin â’r pwyntiau bwled isod): 

​

  • Enw llawn, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol (ac, os yn berthnasol, eich gwefan, enwau cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen)

  • Beth gallwch ei ddwyn gyda chi i’n sefydliad yn eich barn chi? Dywedwch wrthon ni ychydig amdanoch chi a sut yn eich tyb chi y gall eich profiad gyfrannu at TÅ· Cerdd. (dim mwy na 250 o eiriau)

  • Beth yw hi am TÅ· Cerdd sydd o ddiddordeb arbennig i chi? (dim mwy na 250 o eiriau)

  • Byddwn mewn cysylltiad yn ystod ail hanner mis Mehefin.  

 

... neu hoffech gael sgwrs i gael gwybod mwy cyn i chi wneud cais?

E-bostiwch Abby Charles,  a fydd yn falch o ateb unrhyw ymholiadau drwy e-bost, neu drefnu galwad ffôn neu fideo gyda Deborah Keyser (Cyfarwyddwr TÅ· Cerdd) neu Rachel Ford-Evans / Harriet Wybor (Cyd-Gadeiryddion TÅ· Cerdd) 

bottom of page