Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Gwenno Morgan 1998
Mae Gwenno Morgan yn gyfansoddwraig a phianydd sy’n adnabyddus am ei sain sinematig a neoglasurol – wedi’i seilio ar emosiwn, natur a storïa. Cyflwynodd ei halbwm cyntaf gwyw (2024) gymysgedd unigryw o weadau ambient, piano mynegiadol ac offeryniaeth gyfoethog. Mae traciau fel samhain a dail (gyda’r sacsoffonydd Jasmine Myra) yn amlygu ei gallu i greu bydoedd sain hypnotig. Cafodd ei gwaith hedd ei gynnwys ar Night Tracks BBC Radio 3 yn ddiweddar.
Mae gwaith Gwenno yn ymestyn dros gerddoriaeth unigol, ffilm a theatr. Mae wedi cyfansoddi ar gyfer y ffilm Dystopia a’r ffilm fer Hen Wragedd a Ffyn (S4C), ac wedi gweithio fel Cynorthwyydd Cyfarwyddwr Cerdd ar Branwen: Dadeni gyda Cwmni Frân Wen a Chanolfan Mileniwm Cymru. Fel perfformiwr medrus, mae hefyd wedi chwarae gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Astudiodd piano clasurol ym Mhrifysgol Leeds a phiano jazz ym Mhrifysgol Gogledd Texas (blwyddyn dramor), ac yn 2023 aeth i Fwlgaria i gwblhau cwrs haf Film Scoring Academy of Europe. Cafodd Gwenno ei dewis i berfformio yn rownd derfynol Gwobr Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2023, ac mae hi wedi derbyn cefnogaeth gan BBC Horizons ac EOS.

Gwenno Morgan is a Welsh composer and pianist known for her cinematic, neoclassical sound—rooted in emotion, nature, and storytelling. Her debut album gwyw (2024) introduced a distinctive blend of ambient textures, lyrical piano, and rich instrumentation. Tracks like samhain and dail (featuring saxophonist Jasmine Myra) showcase her ability to craft intimate, atmospheric sound worlds. Her piece hedd was recently featured on BBC Radio 3’s Night Tracks.
Gwenno’s work spans solo releases, film, and theatre. She has composed scores for the feature Dystopia and the award-nominated short Hen Wragedd a Ffyn (S4C), and has worked as Musical Director Assistant on Branwen: Dadeni with Cwmni Frân Wen and Wales Millennium Centre. A skilled performer, she has also appeared as a keyboardist with the BBC National Orchestra of Wales.
Gwenno holds a Master's in Creative Practice from Goldsmiths, University of London. She previously studied classical piano at the University of Leeds and the University of North Texas (year abroad), and completed the Film Scoring Academy of Europe Summer Program. A finalist for the 2023 Ysgoloriaeth Bryn Terfel Award, she has also received support from BBC Horizons and EOS.
Combining technical skill with emotional depth, Gwenno creates music that invites stillness, reflection, and cinematic immersion.