top of page

Plethu:affricerdd

AC1_edited.png

Plethu: affricerdd ydy cyfle i grewyr cerddoriaeth o dras Affricanaidd sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru ysgrifennu gwaith newydd ar gyfer unrhyw fath o ensemble cerddorol (offerynnol, electronig ac ati) a bydd yr artistiaid dawns yn coreograffu ac yn creu ffilm ddawns i'r gwaith cerddorol.

Dewisodd y panel, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, TÅ· Cerdd a Sub-Sahara Advisory Panel, yr artistiaid canlynol i weithio gyda'i gilydd:
Eric Martin Kamosi & Idrissa Camara
A.K.A. Mista B (Seun Babatola) & June Campbell-Davies
E11ice & Kitch n Sync
Jeferson Lobo & Gundija Zandersona

 

Mae'r rhaglen hon yn un o linynnau Tapestri, menter newydd TÅ· Cerdd sy'n helpu i greu archif gerddorol fyw o bobl, ieithoedd a chymunedau Cymru.

Eric Martin Kamosi & Idrissa Camara
Connections

Mae ‘Connections’ yn dangos gwahanol ymatebion i fyw yn ninas Caerdydd. Mae’r dawnsiwr Idrissa Camara wedi gosod symudiadau mewn ymateb i gerddoriaeth sy’n cynnwys rhythmau egnïol, tarawol, cerddoriaeth Bolon a recordiadau maes o draffig a recordiwyd yn agos at gartref y Cyfansoddwr Eric Martin Kamosi yng Nghaerdydd.  Mae’r hyn sydd i’w weld yma wedi cael ei dylanwadu gan yr hyn sydd i’w weld a’i glywed yng Nghaerdydd. Anogir y gwrandäwr i gymryd rhan mewn profiad o’r amgylchedd hwn.”

Eric Martin Kamosi

Eric Martin Kamosi 

Eric Kamosi 04.jpg

Gitarydd a cherddor a chyfansoddwr electronig yw Eric Martin Kamosi sy’n creu cerddoriaeth werin, roc, diriaethol, electronig a minimalaidd gan ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau, recordiadau maes a synau electronig. Mae wedi ysgrifennu a pherfformio ar gyfer theatr ddawns a chorfforol broffesiynol ac wedi creu gosodweithiau cerdd, dylunwaith sain, cyfansoddiadau algorithmig a cherddoriaeth i offerynnau byw fel rhan o radd BA (Anrhydedd) mewn ‘Sain a Cherddoriaeth Greadigol’ o Brifysgol De Cymru a gradd feistr mewn ‘Cyfansoddi a Pherfformio Digidol’.

Ar ôl cymryd rhan mewn hyfforddeiaeth mewn cyfansoddi i’r cyfryngau a chreu cerddoriaeth i’r sgrÈ‹n a theatr fyw, mae Eric yn dal i ymddiddori mewn gweithio gydag artistiaid o ystod eang o ddisgyblaethau.

​

http://www.ericmartinkamosi.com/ 

Wedi’i eni yng Ngini Conakry yng Ngorllewin Affrica, hyfforddodd Idrissa o oedran ifanc gyda’r enwog Fale Bassikolo du Guinee. Ef fu’r prif goreograffydd gyda llawer o gwmnïau dawns blaenllaw yng Ngini a Senegal ac yn arloeswr wrth ddysgu’r ddawns i’r rhai sydd â nam ar eu clyw yng Nghwmni Theatr Weledol y Gymdeithas Genedlaethol Chwaraeon a Diwylliant i’r Byddar.
 

Yn 2010, sefydlodd Idrissa, sydd hefyd yn gerddor, unig gwmni dawns/cerddoriaeth Du proffesiynol Cymru, Bale Nimba. Mae ei syniadau arloesol wedi sgubo ar draws y DU ac o dan ei gyfarwyddyd, mae Bale Nimba wedi cyfuno gwreiddiau dawns traddodiadol â pherfformwyr ifainc deinamig a sgôr gerddorol wreiddiol. Mae Idrissa wedi curadu llawer o gynyrchiadau llwyddiannus drwy Gymru a thu hwnt.
 

http://www.la-olam.com/ballet-nimba

Idrissa Camara 

Idrissa Camara.jpg

A.K.A. Mista B (Seun Babatola) & June Campbell-Davies
'Weight of the Ancestors'

Ysgrifennwyd, perfformiwyd a ffilmiwyd 'Weight of the Ancestors' gan AKA Mista B, gyda Choreograffi a pherfformiad dawns gan June Campbell-Davies. Mae'n edrych yn fanwl ar beth mae 'adref' yn ei olygu i alltudiaeth o bobl, a gwadiad achyddiaeth a hanes teuluol a all fod yn ormesol, yn waredol a gobeithiol ar yr un pryd.

cliciwch YMA am y geiriau mewn dwy iaith

A.K.A. Mista B

mistaB.jpg

Cerddor, awdur geiriau a rapiwr sy’n gymdeithasol effro yw A.K.A. Mista B (Seun Babatola). Wedi’i eni yn Nigeria, treuliodd yr ychydig flynyddoedd cyntaf o’i fywyd yng Nghaerdydd ac wedyn bu’n byw yn Ibadan (Nigeria), Llundain a Birmingham, cyn dychwelyd i Gymru.
 

Mae ei chwaeth gerddorol yn amrywio o frêc-bÈ‹t i fetel i drip-hop, ac mae’n credu yn y bôn mai dim ond haenen sgleiniog yw genre. Bydd cerddoriaeth go iawn yn ymestyn allan, ni waeth beth fo’r arddull.  Perffeithrwydd o ran sylwedd, nid y cyflwyniad. 

​

https://www.akamistab.com/ 

  • Facebook
  • YouTube
  • iTunes
  • Instagram

June Campbell-Davies

Dawnswraig, coreograffydd ac artist carnifal yw June sy’n byw yng Nghaerdydd. Bu’n hyfforddi yng Nghanolfan Symudiad a Dawns Laban yn Llundain cyn gweithio gyda Chwmni Theatr Cyfryngau Cymysg Moving Being, Dawns Cymru, Cwmni Dawns Gwylan, Dawns Annibynnol Cymru a Chwmni Whare Teg.

Bu June wedyn yn dysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ac ar gyfer Dawns Rubicon, lle’r oedd yn addysgu ar gyfer eu meysydd cymuned, celfyddydau ac iechyd ac addysg. Mae June hefyd wedi gweithio’n gydweithredol fel cantores ac artist sain ar nifer o albymau yn ogystal â bod yn ymgynghorydd a hwylusydd gyda Charnifal Butetown ac mae wedi gweithio ar sawl prosiect cymunedol sy’n ymwneud â’r ddawns mewn ysgolion, fideos dogfennol ac ysbytai.
 

Mae June yn dal i berfformio ar gyfer Cwmni Dawns Striking Attitude ar gyfer perfformwyr hÅ·n ac yn gweithio gyda Chôr Un Byd Oasis gan arwain sesiynau symud gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Ym mis Mai 2021, cafodd June ei ddethol ar gyfer comisiwn ymchwil a datblygu i greu corff gwaith safle-benodol ar gyfer Artes Mundi 9.

  • Instagram
June CD.jpg

E11ice a Kitsch n Sync Collective
'My Music'

Cydweithrediad rhwng yr artist cerddoriaeth Thalia Ellice Richarson a’r cwmni theatr dawns Kitsch & Sync Collective, yn archwilio’r thema cynefin a’n bydoedd mewnol ac allanol, gyda geiriau wedi’u hysbrydoli gan brofiad bywyd a’r newid y gall cerddoriaeth, celf a hunanfynegiant ei ysbrydoli tu mewn i ni. 

cliciwch YMA am y geiriau mewn dwy iaith

E11ICE 

E11ice.jpg

Hunan arall yw E11ICE y gantores a rapwraig amlgenre a aned yng Nghernyw ac sy’n byw yng Nghaerdydd, Thalia Ellice Richardson. Yn aelod craidd o’r fenter gymunedol yng Nghaerdydd, Ladies of Rage Caerdydd, mae perfformiadau byw unigryw E11ICE wedi’i gwneud yn nodwedd annatod o unrhyw sioe arddangos fyw Ladies of Rage.

 

Yn cyfuno alawon a geiriau meddylgar mae cerddoriaeth  E11ICE yn adlewyrchu ei siwrnai drwy bob dydd gan wneud y cyffredin yn anghyffredin.

 

Mae perfformiadau byw E11ICE yn amrywio o setiau moel ar y meic i gynyrchiadau band jazz llawn. Bob tro y bydd E11ICE yn camu ar y llwyfan mae’n ceisio dod â rhywbeth ffres i’w chynulleidfa.

  • YouTube
  • Instagram
  • Twitter
  • Spotify

Kitsch n Sync Collective

Gan dynnu ysbrydoliaeth o bopeth sy’n retro, vintage a rhyfeddol o wirion, mae rhywun yn nabod menter gydweithredol Kitsch & Sync yn syth wrth eu brand arloesol o theatr ddawns hynod a difyr. Gan ddefnyddio ffasiynau a thiwns tapio traed i greu cymysgedd heintus o goreograffi tra gweledol, cymeriadau lliwgar a blwch ‘gwisgo i fyny’ sy’n llawn i’r ymylon â digon o hen ddillad a fyddai wrth fodd calon eich mam-gu! Mae Kim Noble a Kylie Ann Smith yn asio gwahanol genres dawns, celfi anarferol a mymryn o ryngweithio â’r gynulleidfa i gyflwyno rhywbeth hollol unigryw i chi.
 

Sefydlwyd Kitsch & Sync yn 2011 gan feithrin enw da iddo ei hun fel un o gwmnïau mwyaf cyffrous, gwreiddiol ac eclectig Cymru. Y naill ffordd neu’r llall, mae profiad amheuthun yn eich disgwyl!
 

http://kitschandsync.co.uk/

  • YouTube
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
KitschnSync Pic (002).jpg

Jeferson Lobo & Gundija Zandersona
Cynefin Naturiol

Cydweithrediad rhwng Jefferson Lobo (cerddoriaeth) a Gundija Zandersona (coreograffi) sy’n ystyried perthyn trawsddiwylliannol. Pan fo nifer o leoedd yn ‘gartref’, sut ydym ni’n ymgartrefu pan fyddwn yn teimlo ein bod wedi ein dad-leoli?

Jeferson Lobo

Jeferson Lobo 01c.jpg

Wedi’i eni ym Mrasil, cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd yw Jefferson Lobo sy’n byw yng Nghaerdydd. Gwahoddiad yw ei gerddoriaeth i fyd o bosibiliadau sonig anrhagweladwy: cytseiniau melys wedi’u cyfuno ag alawon llyfn a ffraeth sy’n ffurfio sylfaen ei bair cerddorol, gyda phinsiad o gerddoriaeth jazz, gerddorfaol, Ladin, reggae, ddyfodolaidd a cherddoriaeth fyd.

August 012 (cwmni theatr) ar gynyrchiadau radio’r BBC, wedi cyfansoddi, sgorio a threfnu cerddoriaeth ar gyfer Carnifal Butetown 2020 a 2021, gydag uchafbwyntiau i’w darn trawsatlantig o’r teitl "Zamba" wedi’u comisiynu gan BACA.

https://www.soundcloud.com/jeffersonlobomusic
  

  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube
  • Spotify

Gundija Zandersona

Perfformwraig, coreograffydd ac addysgwraig o Latfia yw Gundija Zandersona sy’n byw yng Nghaerdydd.

Fel cyfarwyddwr gweithredol i Kokoro Arts Cyf. ac artist dawns annibynnol, mae’n gweithio ar draws amrywiaeth o genres gan gynnwys gwaith i deuluoedd a chynulleidfaoedd ifainc, testun llafar a symudiad, theatr gorfforol a dawns gyfoes. Wedi’i hyfforddi yn Latfia, Denmarc a’r DU, mae wedi bod yn gweithio’n rhyngwladol am y 6 blynedd diwethaf yn creu ac adolygu gweithiau perfformio.

  • YouTube
  • Twitter
Gundija port dec20203575 Plethu aff.jpg
SSAP grayscale.png
ndcw.png
DAC_Logo grayscale.png
EISTEDDFOD grayscale.png
WPA logo grayscale.png
tc logo.png
bottom of page