sgroliwch i lawr am y Gymraeg
Oasis One World Choir EP – I’m not free until we’re all free
Tuesday 10 December – Human Rights Day 2024 – marks a new release by Cardiff’s Oasis One World Choir on Sionci, Tŷ Cerdd’s artist-led record label.
Oasis One World Choir (OOWC) welcomes people who have been displaced from their country of origin to Wales. The choir aims to learn from those who connect with the group –sharing, growing and forming together. The choir is a lifeline for many people who are faced with restarting their lives in a new country; often in a language that is completely new to them. The language of music transcends these barriers, and the choir allows people to make new friends and build community together.
Through a journey of nearly 10 years, OOWC has been able to create unique and exciting music that culturally honours all those who add to it. Refugees are given a voice in their new community, promoting greater empathy and understanding of the issues they face – becoming role models for others.
The collaboration with Tŷ Cerdd / Music Centre Wales on the release of this new EP to mark Human Rights Day 2024, amplifies these voices further, via professional label, Tŷ Cerdd’s artist-led marque, Sionci – sharing a powerful model for unity in divided times. The four tracks on the EP echo the theme of World Human Rights 2024: Equality – reducing inequalities and advancing human rights. They joyfully reflect and strengthen the concept of Wales as a Nation of Sanctuary.
OOWC member Christianah Ugbaja said: “It’s such a great opportunity for us to collaborate with Tŷ Cerdd. Having our songs recorded and launched on their platform will give our choir more visibility - a chance to share our songs with the wider community.”
The release will be launched at an event at Oasis Cardiff (69b Splott Rd, Cardiff, CF24 2BW) on Monday 9 December, in celebration of Human Rights Day.
Release details:
Oasis One World Choir – I’m not free until we’re all free
Catalogue no: TCR051
Release date: Tuesday 10 December
available on all streaming platforms
Tracks:
Track 1: ‘Lifting Up My Mind’ – written during lockdown by choir members this has become an anthem for OOWC: ‘I’m not free until we’re all free’ Duration: 04:38
Track 2: ‘Ayman’s Song’, with soloists Ayoub, Ayman, Faisal. Sung In Arabic, English, French and Welsh Duration: 03:39
Track 3: ‘Be There’ by Oloye Fineface and Morack in collaboration with Oasis One World Choir Duration: 04:34
Track 4: ‘Togetherland Song’ by Ffion Campbell-Davies in collaboration with Oasis One World Choir Duration: 04:06
Oasis One World Choir (OOWC)
The One World Choir originated as a small community music project in 2015 based at Oasis, Cardiff (a centre for the refugee and asylum-seeking community) and has been working to welcome and empower new Welsh folk via a programme of workshops and events. OOWC is proud to be able to share a rich blend of culture and music with the general public through an array of workshops and performances. The project has expanded to include professionals with lived experience of seeking sanctuary as part of its freelance staff team. The resulting chemistry of people from around the globe making music together, as well as the many barriers that the project seems to break down along the way, are evidence of the project’s unique impact.
Sionci is Tŷ Cerdd’s artist-led label sitting alongside the existing marque Tŷ Cerdd Records. Sionci has been conceived to enable creative- and career-development for artists, cross-genre. Artists can take control of any of all of parts of the process – from recording and producing, to artwork and promotion – and are offered a more favourable royalty split than a regular label.
Côr Un Byd Oasis yn rhyddhau EP ar label ‘Sionci’ Tŷ Cerdd i nodi Diwrnod Hawliau Dynol, 10 Rhagfyr
Côr Un Byd Oasis yn rhyddhau I’m not free until we’re all free
Ar ddydd Mawrth 10fed Rhagfyr – sef Diwrnod Hawliau Dynol 2024 – bydd Côr Un Byd Oasis o Gaerdydd yn rhyddhau record newydd ar label Sionci, sef label yr artistiaid eu hunain yn Tŷ Cerdd.
Mae Côr Un Byd Oasis yn croesawu pobl sydd wedi cael eu dadleoli o’u mamwlad ac wedi dod i Gymru. Nod y côr yw dysgu oddi wrth y rhai sy’n ymgysylltu â’r grŵp – gan rannu, tyfu a chreu gyda’n gilydd. Mae’r côr yn achubiaeth i lawer o bobl sy’n wynebu ailddechrau eu bywydau mewn gwlad newydd; yn aml mewn iaith sy’n gwbl newydd iddynt. Mae iaith cerddoriaeth yn mynd y tu hwnt i’r rhwystrau hyn, ac mae’r côr yn galluogi pobl i wneud ffrindiau newydd ac adeiladu cymuned gyda’i gilydd.
Yn ystod taith sydd wedi para bron i 10 mlynedd, mae’r Côr Un Byd wedi gallu creu cerddoriaeth sy’n unigryw ac yn gyffrous ac sydd hefyd yn parchu diwylliant pawb sy’n ychwanegu ati. Rhoddir llais i ffoaduriaid yn eu cymuned newydd, gan hybu mwy o empathi a dealltwriaeth o’r materion y maent yn eu hwynebu – gan ddod yn fodelau rôl i eraill.
Wrth gydweithio â Tŷ Cerdd / Canolfan Cerddoriaeth Cymru i ryddhau’r EP newydd hwn i nodi Diwrnod Hawliau Dynol 2024, caiff y lleisiau hyn eu clywed ymhellach, trwy’r label proffesiynol, Sionci, sef label yr artistiaid eu hunain yn Tŷ Cerdd, a thrwy hynny yn rhannu model pwerus ar gyfer undod mewn cyfnod mor rhanedig. Mae’r pedwar trac ar yr EP yn adleisio thema Hawliau Dynol y Byd 2024, sef: Cydraddoldeb – lleihau anghydraddoldebau a hyrwyddo hawliau dynol. Maent yn llawenhau wrth ystyried a chryfhau’r cysyniad o Gymru fel Cenedl Noddfa.
Dywedodd Christianah Ugbaja, aelod o Gôr Un Byd Oasis: “Mae’n gyfle gwych i ni gydweithio â Tŷ Cerdd. Bydd cael ein caneuon wedi’u recordio a’u lansio ar eu platfform yn rhoi mwy o amlygrwydd a sylw i’n côr ni – cyfle i rannu ein caneuon gyda’r gymuned ehangach.”
Bydd yr EP yn cael ei lansio mewn digwyddiad yn Oasis Caerdydd (69b Splott Rd, Caerdydd, CF24 2BW) ddydd Llun 9 Rhagfyr, i ddathlu Diwrnod Hawliau Dynol.
Nodiadau i olygyddion
Manylion rhyddhau:
Côr un Byd Oasis / Oasis One World Choir – I’m not free until we’re all free
Rhif catalog: TCR051
Dyddiad rhyddhau: dydd Mawrth 10 Rhagfyr
Ar gael ar yr holl lwyfannau ffrydio
Traciau:
Track 1: ‘Lifting Up My Mind’ – aelodau’r côr ysgrifennodd hon yn ystod y cyfnod clo ac mae wedi dod yn anthem i’r Côr: ‘I’m not free until we’re all free’ Hyd: 04:38
Trac 2: ‘Ayman’s Song’, gyda’r unawdwyr Ayoub, Ayman, Faisal. Wedi’i chanu yn y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg ac Arabeg Hyd: 03:39
Trac 3: ‘Be There’ gan Oloye Fineface a Morack ar y cyd â Chôr Un Byd Oasis Hyd: 04:34
Trac 4: ‘Togetherland Song’ gan Ffion Campbell-Davies ar y cyd â Chôr Un Byd Oasis Hyd: 04:06
Côr Un Byd Oasis / Oasis One World Choir (OOWC)
Dechreuodd Côr Un Byd fel prosiect bach ar gyfer cerddoriaeth gymunedol yn 2015 a hynny yn yr Oasis, Caerdydd (sef canolfan ar gyfer cymuned y ffoaduriaid a cheiswyr lloches) ac mae wedi bod yn gweithio i groesawu a grymuso cerddoriaeth werin Gymreig newydd trwy raglen o weithdai a digwyddiadau. Mae’r Côr yn falch o gael y cyfle i rannu eu cymysgedd gyfoethog o ddiwylliant a cherddoriaeth gyda’r cyhoedd a hynny drwy amrywiaeth o weithdai a pherfformiadau. Mae’r prosiect wedi’i ehangu i gynnwys gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad byw o geisio noddfa i fod yn rhan o’i dîm o staff llawrydd. Mae’r cemeg sy’n deillio o gael pobl o bob cwr o’r byd yn creu cerddoriaeth gyda’i gilydd, yn ogystal â’r rhwystrau niferus y mae’r prosiect fel petai’n eu chwalu ar hyd y ffordd, yn dystiolaeth o effaith unigryw’r prosiect.
Sionci yw label Tŷ Cerdd sydd o dan arweiniad artistiaid ac mae’n eistedd ochr yn ochr â’r label presennol Recordiau Tŷ Cerdd. Mae Sionci wedi’i greu i alluogi artistiaid i ddatblygu’n greadigol ac i ddatblygu eu gyrfa, a hynny ar draws pob genre. Gall artistiaid gymryd rheolaeth ar unrhyw ran o’r broses os nad y cyfan – o’r recordio a’r cynhyrchu, i’r gwaith celf a hyrwyddo – a chynigir cyfraniad breindal mwy ffafriol iddynt na label arferol.
Comentarios