top of page

Gareth Glyn
Yr Oriau Oll a Welsom 

TCR058

Mae Yr Oriau Oll a Welsom a gweithiau eraill yn dwyn ynghyd weithiau lleisiol ac offerynnol a gyfansoddwyd yn ystod holl yrfa’r cyfansoddwr. 

 

Mae’r albwm yn cynnwys pum gwaith o bwys gan Gareth Glyn, dau ohonynt wedi’u gosod i waith y bardd a’r nofelydd enwog T Glynne Davies, sef tad Gareth Glyn ei hun – ac yn digwydd bod mae 2026 hefyd yn nodi canmlwyddiant ei enedigaeth yntau. 

 

Gwaith canolog yr albwm yw’r cylch caneuon Yr Oriau Oll a Welsom, wedi’i osod i farddoniaeth T Glynne Davies. Caiff ei berfformio gan y bariton o fri Steffan Lloyd Owen ochr yn ochr â’r bianyddes ddisglair Annette Bryn Parri, ychydig cyn ei marwolaeth yn 2025.  

 

Yr ail drefniant i waith T Glynne Davies yw Cân Herod, ac mae’r darn hwn yn fwy perthnasol nag erioed gyda’i rybuddion pwerus ynghylch sefydlogrwydd y byd i’r dyfodol. Steffan Lloyd Owen sy’n perfformio gydag offerynwyr o Ensemble Cymru.  

 

Dau waith piano unigol a chyfres ar gyfer ensemble siambr sy’n ffurfio gweddill yr albwm, a’r rhain oll yn arddangos ystod eang o arddulliau: o uniongyrchedd Pianimals, a berfformir yma gan Mervyn Burtch, y cyfansoddwr y mae cof annwyl amdano, mewn recordiad TÅ· Cerdd a ailddarganfuwyd yn ddiweddar; i her dechnegol Caniad y Gloch sydd wedi’i thrin â deheurwydd disglair a sensitifrwydd craff gan Christopher Williams; a swyn syml Anglesey Seascapes sy’n dathlu harddwch yr ynys sy’n gartref i’r cyfansoddwr, ac a berfformir yma gan Ensemble Cymru. 

 

Meddai Gareth Glyn: “Rwy’n ddiolchgar iawn i Recordiau TÅ· Cerdd am ryddhau’r albwm hwn yn ystod blwyddyn sydd mor arwyddocaol i mi: blwyddyn fy mhen-blwydd yn 75 oed yn ogystal â blwyddyn canmlwyddiant geni fy nhad. Dros gyfnod o bron i 60 mlynedd, rwyf wedi gosod llawer iawn o’i farddoniaeth i gerddoriaeth – nid oherwydd mai ef oedd fy nhad, ond yn hytrach oherwydd bod ei gerddi wastad wedi creu argraff arnaf a’m hysbrydoli. Mae cryfder emosiynol rhyfeddol iddynt – yn enwedig o bosibl y gân a ddewiswyd i fod yn gân agoriadol yr albwm hwn, gyda’i pherorasiwn clo brawychus. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r holl artistiaid a gyfrannodd eu doniau gwych i’r albwm hwn, a hefyd i Catrin Finch, y bydd ei pherfformiad o fy ail gonsierto i’r delyn (Vita Davidis) yn cael ei ryddhau gan recordiau TÅ· Cerdd ym mis Mai.”  

Gareth Glyn digital square_edited.jpg

​All the Hours We Saw and other works brings together vocal and instrumental works written across the composer’s career. 

​

The album takes in five significant works from Gareth Glyn’s output, two of which set texts by prominent Welsh poet and novelist T Glynne Davies, Glyn’s own father – the centenary of whose birth is also marked in 2026. 

​

The album's central work is the song cycle Yr Oriau Oll a Welsom (All the Hours We Saw), setting T Glynne Davies’s poetry, and performed by prominent baritone Steffan Lloyd Owen, alongside beloved Welsh pianist Annette Bryn Parri, shortly before her death in 2025.  

 

Another T Glynne Davies setting, Cân Herod, is more pertinent than ever, with its powerful warnings for the future stability of the world order. Steffan Lloyd Owen performs alongside players from Ensemble Cymru. 

​

The two solo piano works and the suite for chamber ensemble that make up the album display a broad stylistic range: from the accessible immediacy of Pianimals, performed here by the fondly remembered composer Mervyn Burtch in a recently unearthed TÅ· Cerdd recording; to the technical challenge of Caniad y Gloch (The Sounding Bell), handled with dazzling technique and insightful sensitivity by Christopher Williams; and the charming accessibility of Anglesey Seascapes, celebrating the natural beauty of the composer’s home, and performed here by Ensemble Cymru.

 

Gareth Glyn said: “I’m indebted to TÅ· Cerdd Records for bringing out this album in a year which is such a significant one for me: the year not only of my 75th birthday but also of my father’s centenary. Over a period of close to 60 years I set a great deal of his poetry to music – not because he was my father, but rather because I’ve always been affected and inspired by his poems.  They have a remarkable emotionally-driven muscularity – none more so perhaps than the one chosen as the opening song on this album, with its terrifying closing peroration. I’m immensely grateful to all the artists who contributed their stellar talents to this album, and also to Catrin Finch, whose performance of my second harp concerto (Vita Davidis) will be released by TÅ· Cerdd records in May.”  

RHESTR TRACIAU / TRACK LIST

​

1  Cân Herod (Herod’s Song)  4:34 

 Steffan Lloyd Owen (bariton), Ensemble Cymru 

 

2  Caniad y Gloch (The Sounding Bell)  13:05  

Christopher Williams (piano)  

 

Morluniau Môn (Anglesey Seascapes)  

3  Llanddwyn  2:16  

4  Cemaes  2:19  

5  Moelfre  4:26  

Ensemble Cymru  

 

Yr Oriau Oll a Welsom (All the Hours we Saw)  

6  Prolog (Prologue)  0:45  

7  Seithug (Futile)  3:22  

8  Crafangau (Talons)  3:50  

9  Y Weddw (The Widow)  2:34  

10  Yr Eryr (The Eagle)  2:13 

11  Tic Toc (Tick Tock)  0:48 

12  Amser (Time)  1:25 

13  Meibion y Rhyfel (Sons of the War)  2:03 

14  Y Cofio (Recalling)  3:47  

Steffan Lloyd Owen (bariton), Annette Bryn Parri (piano) 

 

Pianimals (Pianifeiliaid) 

15  Polar Bear (Arth Wen) 1:40  

16  Crow (Brân) 3:47  

17  Zebra (Sebra) 1:57 

Mervyn Burtch (piano) 

​

(CYFANSWM/TOTAL: 54:51) 

eng
bottom of page