top of page
CoDI Arwain logo.png

Dewiswyd chwe artist a ddetholwyd ar gyfer CoDI: Arwain, llwybr cerddoriaeth siambr newydd dan arweiniad pobl anabl sy’n eu gosod ar ganol y llwyfan.

 

Roedd y cyfansoddwr Lloyd Coleman (Cyfarwyddwr Cerdd Cyswllt Paraorchestra) ac ensemble o bedwar cerddor neilltuol sy’n eu hystyried eu hunain yn “B/byddar” neu’n anabl yn cydweithio â 6 chyfansoddwr/crëwr cerddoriaeth mewn cyfres o weithdai sy’n edrych ar y posibiliadau a gorwelion artistig newydd y gall cydweithio ag artistiaid anabl ddod â nhw yn ei sgil.

 

ARTISTIAID DETHOL

  • Daniel Soley – yn gyfansoddwr, artist sain a pherfformiwr y mae technoleg, byrfyfyrio ac eclectigiaeth yn dylanwadu ar ei gerddoriaeth

  • Jefferson Lobo – yn grëwr cerddoriaeth a aned ym Mrasil, mae cerddoriaeth Jefferson wedi’i thrwytho â jazz-ffync dyfodolaidd a ysbrydolir gan natur

  • Litang Shao – yn hanu o Hong Kong ac erbyn hyn yn darlithio mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Litang yn cyfansoddi cerddoriaeth a ysbrydolir gan gelfyddydau a diwylliant Tsieina

  • Lucy McPhee – yn gweithio ar hyn o bryd ar ei doethuriaeth ar gyfansoddi ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Lucy yn edrych ar gynrychiolaeth cymeriadau benywaidd gan gyfansoddi cerddoriaeth sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn ymladd yn erbyn tabŵ

  • Sam Buttler – ar hyn o bryd yn gyfansoddwr cyswllt gyda’r Ripieno Players, mae Sam yn cyfansoddi ar draws ystod eang o arddulliau, o gerddoriaeth ffilm a llyfrgell i waith cyngerdd

  • Tayla-Leigh Payne – graddiodd Tayla o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2021 ac mae ei cherddoriaeth yn edrych ar fydoedd nodiant a cherddoriaeth electronig

ARTISTIAID ARWEINIOL

Yn dilyn gweithdai dros dri mis, cafodd gweithiau newydd y chwe chyfansoddwr  eu cyflwyno mewn perfformiad cyhoeddus yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddydd Sul 27 Mawrth.

RECORDIADAU

Daniel Soley: Quartet

Jefferson Lobo: Festivo

Kiko Shao: The Throwback

Lucy McPhee: Invisible, to you

Sam Buttler: Chariots, Death, Jewels and the Moon

Tayla-Leigh Payne: Growth and Honesty

 

Cefnogir llwybr CoDi: Arwain gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y PRS, Youth Music ac Ymddiriedolaeth RVW.

 

> CoDI 2021/22

> CoDI Hunan

CoDI Lead logosA.png
bottom of page