top of page

cefnogir gan Canolfan Mileniwm Cymru

CoDI Hunan logo.png

Daeth carfan o artistiaid at ei gilydd fel rhan o’i lwybr diweddaraf, CoDI Hunan i ddatblygu eu gwaith eu hunain drwy gydweithio ag eraill, yn ystod dwy encil dwys yn ystod gwanwyn 2022.

 

Llwyddodd galwad agored i ddenu dros 60 o geisiadau a detholwyd 9 o grewyr cerddoriaeth i gydweithio â thîm canolog hynod o 7 o artistiaid arweiniol, pob un yn cynhyrfu’r dyfroedd yn ei genre a’i faes ei hun.

 

Mae’r garfan o gyfranogwyr ac artistiaid arweiniol sy’n deillio o hyn yn adlewyrchu ystod o genres, oedrannau, ieithoedd a phrofiadau bywyd.

ARTISTIAID DETHOL

  • Cantores-gyfansoddwraig yw Anna Arrieta sydd hefyd yn arbenigo mewn rheoli prosiectau yn y celfyddydau creadigol gyda phobl ifainc.

  • Cyfansoddwr, chwaraewr bas a hwylusydd gweithdai yw Dan Swain.  Mae’n gweithio mewn ystod o genres ac yn chwarae bas gyda’r band 9Bach.

  • Hunan arall y gantores amlgenre a rapwraig Thalia Ellice Richardson yw E11ICE y mae ei pherfformiadau creadigol yn amrywio o fandiau llawn i setiau acwstig moel.

  • Prosiect Oli Richards yw Goodparley sy’n creu seicedelia drônio llawn naws drwy gymysgedd o fyrfyfyrio greddfol a chyfansoddi.

  • Cantores-gyfansoddwraig caneuon sy’n byw yn y Barri yw Hannah Paloma. Mae’n chwarae’r iwcalili a’r piano ac yn gweithio’n helaeth gyda harmonïau lleisiol wedi’u haenu.

  •  Rapiwr o’r Pil yng Nghasnewydd yw TRUTH (Isaac George) sydd ar hyn o bryd yn astudio Technoleg Gerddoriaeth yng Ngholeg Gwent ac yn gweithio i ddatblygu ei arddull cerddorol a geiriau ei ganeuon.

  • Canwr-gyfansoddwr caneuon sy’n byw yng Nghaerdydd yw Joseph Gnagbo a ddaw’n wreiddiol o’r Traeth Ifori. Bydd yn cyfansoddi caneuon yn y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Swahili.

  • Cantores-gyfansoddwraig caneuon a chynhyrchydd DIY yw Małgola, No o Wlad Pwyl sydd ar hyn o bryd yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio ar draws ystod o arddulliau pop.

  • Artist sy’n byw yn Ynys Môn yw SERA (Sarah Zyborska) sy’n cyfuno gwerin, pop ac Americana i greu caneuon dwyieithog sy’n adrodd stori.

ARTISTIAID ARWEINIOL

  • Catrin Finch – cyfansoddwraig a thelynores amlgenre 

  • Eädyth – crëwr cerddoriaeth soul/jazz/RnB electronig  

  • Lady Nade – cantores-gyfansoddwraig caneuon gwerin/Americana

  • Mr Phormula – bît-bocsiwr/rapiwr/artist dolennu byw  

  • N’famady Kouyaté – canwr-gyfansoddwr caneuon/pencerdd ar y balaffon; Cyfarwyddwr Artistig Successors of the Mandingue.

  • Rowland Sutherland – ffliwtydd jazz/clasurol/arbrofol, cyfansoddwr, trefnydd, arweinydd band ac addysgwr

  • Kiddus Murrell – canwr-gyfansoddwr caneuon/cynhyrchydd/amlofferynnwr /artist gweledol; Crëwr Cerddoriaeth Preswyl Tŷ Cerdd.

 

Daeth yr artistiaid at ei gilydd mewn encilfeydd yng nghanolbarth Cymru a Chaerdydd ym mis Mawrth ac Ebrill lle buont yn canolbwyntio ar y broses artistig gan fynd ag unrhyw waith sy’n deillio o hyn i stiwdio Tŷ Cerdd.

 

Cefnogwyd llwybr CoDI Hunan gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y PRS ac Youth Music.

> CoDI 2021/22

> CoDI Arwain

Logos for CoDI Lead.png
Logos for CoDI Lead.png
Logos for CoDI Lead.png
bottom of page