Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL
Mae BŴM! yn llwybr ar gyfer pedwar artist ar ddechrau eu gyrfa (neu bedwar ensemble/grŵp ar ddechrau eu gyrfa) iddynt greu cerddoriaeth a sain awyr agored sy’n ymateb i themâu’r argyfwng hinsawdd.
Mae’n bartneriaeth gydag Oxford Contemporary Music ac Articulture a bydd yn cefnogi artistiaid i ddatblygu sgiliau ymarferol a chreadigol ac i ddysgu am ymgorffori gwaith sy’n ymateb i’r hinsawdd wrth weithio. Mae hyn oll yn bosibl oherwydd cefnogaeth hynod hael Jerwood Arts, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad PRS.
Bydd 4 o grewyr cerddoriaeth dethol yn derbyn £1500 yr un am gymryd rhan, ynghyd â chefnogaeth uniongyrchol gan gynhyrchwyr creadigol ac aelodau tîm OCM, Articulture a Tŷ Cerdd dros gyfnod o 9 mis. Bydd cyfres o gyfarfodydd yn ystod y cyfnod yn dod â’r garfan ynghyd i rannu dysg, syniadau a gwaith sydd ar y gweill ac i glywed gan arbenigwyr yn y maes.
Amserlen
-
dydd Iau 7 Medi, bore – sesiwn i ddechrau pethau (ar-lein)
-
dydd Gwener 29 Medi – cwrdd #1 (y Dre Newydd, Powys)
-
dydd Mawrth 23 Ionawr, bore – cwrdd #2 (ar-lein)
-
dydd Sadwrn 9 Mawrth – cwrdd #3 (yn y Gogledd)
-
dydd Mercher 15 Mai, bore – cwrdd #4 (ar-lein)
-
dydd Mercher 3 NEU 10 Orffennaf (i'w gadarnhau) – cwrdd #5 (101 Outdoor Arts, Newbury)
Cefnogir y llwybr hwn gan Jerwood Developing Artists Fund
Ella Roberts, Francesca Simmons, Gwen Siôn & Teifi Emerald
