Mae CoDI yn lansio tymor newydd o lwybrau taledig ar gyfer crewyr cerddoriaeth
- 11 hours ago
- 2 min read

Gyda themâu megis arbrofi, llais a chyfathrebu wrth wraidd rhaglen 2026/27, mae CoDi yn cynnig lle croesawgar i artistiaid archwilio syniadau, cymryd heriau creadigol, ac ehangu eu hymarfer i gyfeiriadau newydd.
Mae CoDi, sy’n agored i unrhyw un sy’n creu cerddoriaeth yng Nghymru, yn cynnig nifer o lwybrau a mynediadau ar gyfer datblygiad artistiaid, yn ogystal â chyfleoedd cynnydd ar gyfer crewyr cerddoriaeth sefydledig. Ar draws amrywiaeth o gefndiroedd, hyfforddiant, genres a chyfnodau gyrfa, mae cyfranogwyr yn derbyn cefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau, tyfu eu rhwydweithiau a chreu gwaith newydd uchelgeisiol.
Mae rhaglenni’n amrywio o weithdai cydweithredol a phreswyliadau i gyfleoedd perfformio a recordio, gan rychwantu popeth – o gerddoriaeth glasurol gyfoes, traddodiadol, gwerin, byrfyfyr a jazz, i gerddoriaeth arbrofol, electronig, R&B, cantorion-cyfansoddwyr ac ymarfer traws-genre. Ochr yn ochr â hyn, mae llinyn Rhyngweithio yn cynnig gweithdai hygyrch, mentora, a rhwydweithio (ar-lein ac wyneb i wyneb), gan gefnogi artistiaid i ddatblygu gyrfeydd cynaliadwy a chysylltiadau ystyrlon.
Rydym hefyd yn cynnal label recordio dan arweiniad artistiaid, o’r enw Sionci. Mae’r gwaith sy’n cael ei ryddhau drwy Sionci yn cynrychioli ystod eang o gerddoriaeth ac artistiaid o bob cwr o Gymru, gan roi platfform o bryd i’w gilydd i waith a grëwyd drwy ein rhaglen CoDi.
Prif linynnau gweithgarwch ein rhaglen ar gyfer 2026/27 yw:
yn ogystal â phartneriaeth gyda Gwobrau Oram, sy’n dod i Gymru am y tro cyntaf yn 2026.
Meithrin talent, codi lleisiau, a chefnogi sin gerddoriaeth gynhwysol a disglair yng Nghymru, lle gall artistiaid pob genre ffynnu – dyma sydd wrth wraidd CoDi.
BETH YW CoDI?
CoDI yw ein rhaglen datblygu creadigol barhaus sy’n ffocysu ar artistiaid. Mae’r rhaglen yn cefnogi creu a datblygu cerddoriaeth yng Nghymru. Rydym yn cefnogi crewyr cerddoriaeth yng Nghymru ac o Gymru, ar draws pob genre, arddull a chyfnod gyrfa.
Gan weithio mewn partneriaeth ag artistiaid a sefydliadau, mae CoDI yn darparu cyfleoedd creadigol o ansawdd uchel, hygyrch, gyda thâl sydd wedi’u llunio gan anghenion y cyfranogwyr.




Comments