Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Ar draws y tri llwybr datblygu artistiaid yn CoDI 2023/24, mae ein 16 crëwr cerddoriaeth bellach wedi’u dewis o blith nifer enfawr o ymgeision. Rydyn ni wedi gwerthfawrogi bob un a gawsom a hoffem ddiolch i bawb a gyflwynodd cais, yn ogystal â llongyfarch yr artistiaid a ddewiswyd ar eu llwyddiant.
Byddwn yn cyflwyno’r ceinciau un wrth un, gan ddechrau gyda…
Stiwdio Cyfansoddwyr – mae chwe artist wedi eu dewis ar gyfer hyn, sef llwybr ar gyfer cyfansoddwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa i roi’r cyfle a’r gefnogaeth iddynt ysgrifennu darn 5 munud ar gyfer ensemble o 12 perfformiwr o dan arweinydd. Caiff ei gynnal mewn partneriaeth ag UPROAR – sef ensemble newydd cyfoes Cymru, cyfarwyddwr artistig Michael Rafferty – a’r mentoriaid cyfansoddi Lynne Plowman a Richard Baker. Ac mae wedi’i wneud yn bosibl trwy gyllideb oddi wrth Jerwood Developing Artists Fund, Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad PRS, Sefydliad RVW, Ymddiriedolaeth Celfyddydau Fenton, Ymddiriedolaeth Elusennol Garrick, a'r Ymddiriedolaeth Leche.
Eluned Davies, Jake Thorpe, Joseph Graydon, Luciano Williamson,
Niamh O'Donnell, a Tayla-Leigh Payne
Mae’r pedwar artist nesaf wedi eu dewis ar gyfer BŴM! sef llwybr ar gyfer artistiaid ar ddechrau eu gyrfa iddynt greu cerddoriaeth a sain awyr agored sy’n ymateb i themâu’r argyfwng hinsawdd. Mae’n bartneriaeth gydag Oxford Contemporary Music ac Articulture a bydd yn cefnogi artistiaid i ddatblygu sgiliau ymarferol a chreadigol ac i ddysgu am ymgorffori gwaith sy’n ymateb i’r hinsawdd wrth weithio. Mae hyn oll yn bosibl oherwydd cefnogaeth Jerwood Arts, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad PRS.
Ella Roberts, Francesca Simmons, Gwen Siôn, a Teifi Emerald
Ac yn drydydd, Peblo Pengwin ydy llwybr sy’n arbennig ar gyfer pobl niwrowahanol sy’n creu cerddoriaeth o unrhyw genre – mewn partneriaeth ag Aubergine Café, a dan arweiniad y ddeuawd sain Ardal Bicnic (Heledd C Evans & Rosey Brown) a’r cynhyrchydd creadigol Jake Griffiths. Ar gyfer y prosiect yma, dewison ni chwe chrëwr cerddoriaeth ar ddechrau eu gyrfa a fyddant, mewn cyfres o weithdai, yn archwilio technegau a dulliau, gan arwain at ddigwyddiad rhannu/recordio terfynol. Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Sefydliad PRS am ei gyllideb hael ar gyfer y llwybr yma.
Eranan Thirumagan, Ffion Campbell-Davies, James Jones, Laura Phillips,
Neo Ukandu, a Rhiannon Takel
Tŷ Cerdd is a PRS Foundation Talent Development Partner in association with Youth Music